Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon Rhyngwladol » Hiliaeth a Chwaraeon
Yn yr Adran Hon
Hiliaeth a Chwaraeon
Mae chwaraeon yn helpu i uno pobl o bob gwlad a hil, ond weithiau gall pobl o grwpiau ethnig lleiafrifol fod o dan anfantais ym maes chwaraeon. Yn y gorffennol, mae pobl o leiafrifoedd ethnig wedi’u gwahardd o chwaraeon a’u diystyru gan hyfforddwyr. Weithiau, rhaid i chwaraewyr proffesiynol ymdopi â sylwadau hiliol o’r dorf.
Trwy ymrwymo i gydraddoldeb hiliol, bydd mwy o bobl o gefndiroedd ethnig yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Bydd hefyd yn arwain at gynrychiolaeth fwy teg, fwy amrywiol ar bob lefel ym maes hyfforddi a chwaraeon.
'Sporting Equals'
Mae’r rhan fwyaf o waith y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol yn cael ei gydlynu gan 'Sporting Equals', sef menter genedlaethol er hybu cydraddoldeb, mewn partneriaeth â 'Sport England'.
Yn 1999, fe wnaeth arolwg gan 'Sporting Equals' o 62 o gyrff llywodraethu ddarganfod eu bod angen mwy o arweiniad, cymorth a gwybodaeth i’w helpu i fynd i’r afael â phroblemau cydraddoldeb hiliol o fewn eu camp. Mae 'Sporting Equals' yn gweithio gyda’r cyrff llywodraethu a chyda sefydliadau mantell genedlaethol allweddol i ddatblygu polisïau a dulliau gweithio sy’n hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Mae hefyd wedi cynhyrchu siarter cydraddoldeb hiliol ar gyfer chwaraeon ac wedi helpu Cymdeithas Llywodraeth Leol i greu 'Promoting Racial Equality Through Sport'.
Cicio Hiliaeth Allan o'r Gêm
Dechreuodd yr ymgyrch 'Let’s Kick Racism Out of Football' yn 1993 gan y CRE a’r Gymdeithas Pêl-droedwyr Proffesiynol, gyda chefnogaeth yr Ymddiriedolaeth Pêl-droed. Ei nod oedd "i sicrhau bod pob un sy’n mynd i weld neu chwarae pêl–droed yn gallu ei wneud heb fygythiad neu ofn o ymosodiad hiliol".
Fe wnaeth bron pob clwb pêl–droed proffesiynol yng Nghymru a Lloegr roi eu cefnogaeth i gynllun gweithredu 10 pwynt yr ymgyrch. Yn 1995, fe wnaeth y Gymdeithas Pêl-droed, sef corff llywodraethu pêl–droed, ymrwymo i gicio hiliaeth allan o’r gêm pan ffurfiwyd sefydliad newydd.
Cafodd y Grŵp Ymgynghorol Yn Erbyn Hiliaeth a Brawychiad (Advisory Group Against Racism and Intimidation) ei ffurfio o gynrychiolwyr o’r holl brif fudiadau pêl–droed – y tro cyntaf i’r holl fudiadau pêl–droed ddod at ei gilydd i weithio tuag at un achos. Newidiodd yr ymgyrch ei enw yn 1997 i 'Kick It Out' a daeth yn annibynnol o'r Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol.
Blaenoriaethau’r ymgyrch yw:–
- Pêl–droed proffesiynol: i sicrhau proffil uchel parhaus ymhlith clybiau proffesiynol
- Pobl ifanc: datblygu adnoddau addysgol i’w defnyddio gan bobl ifanc mewn ysgolion, colegau a mudiadau ieuenctid
- Pêl–droed amatur: Gweithio mewn pêl–droed amatur i waredu hiliaeth mewn pêl–droed mewn parciau cyhoeddus
- Asiaid mewn pêl–droed: datrys y broblem o Asiaid ar y ffiniau mewn sawl agwedd o'r gêm
- Cymunedau croenddu: cynyddu cyfranogiad cymunedau ethnig lleiafrifol lleol o fewn clybiau pêl–droed proffesiynol
- Pêl–droed Ewropeaidd: amlygu hiliaeth mewn pêl–droed Ewropeaidd a datblygu rhwydweithiau gwrth–hiliaeth