Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon Rhyngwladol » Gemau'r Gymanwlad
Yn yr Adran Hon
Gemau'r Gymanwlad
Mae Gemau’r Gymanwlad yn ddigwyddiad sy’n cwmpasu nifer fawr o chwaraeon gwahanol, ac mae’r athletwyr gorau o’r Gymanwlad Cenhedloedd yn cystadlu. Mae’r Gymanwlad Cenhedloedd wedi’i ffurfio o 53 o wladwriaethau sofran annibynnol, a bu bron pob un ohonyn nhw’n gyn diriogaeth yr Ymerodraeth Brydeinig.
Caiff y Gemau eu cynnal bob pedair blynedd ac mae 71 o dimoedd yn cystadlu. Mae gan bob gwlad ym Mhrydain Fawr ei thîm ei hun, sy’n cystadlu ar wahân. Y timoedd hyn yw:
- Cymru
- Lloegr
- Yr Alban
- Gogledd Iwerddon
Mae timoedd ar wahân o Guernsey, Jersey ac Ynys Manaw yn cystadlu hefyd.
Mae Gemau’r Gymanwlad yn cynnwys chwaraeon Olympaidd, yn ogystal â chwaraeon a wneir yn draddodiadol yng ngwledydd y Gymanwlad, fel bowliau lawnt, rygbi saith bob ochr a phêl–rwyd. Mae’r chwaraeon yn cynnwys y rhestr ganlynol, ond fe all hynny newid o’r naill dwrnamaint i’r llall. Bydd trefnwyr y Gemau’n penderfynu ar yr hyn i’w gynnwys yn y flwyddyn honno:
- Athletau
- Gymnasteg
- Beicio
- Saethyddiaeth
- Badminton
- Bocsio
- Criced
- Gyrru
- Ffensio
- Hoci
- Judo
- Bowliau lawnt
- Pêl–rwyd
- Rygbi saith bob ochr
- Rhwyfo
- Saethu
- Sboncen
- Nofio
- Tenis bwrdd
- Bowlio deg pin
- Triathlon
- Polo dŵr
- Codi pwysau
- Reslo
A wyddost di...?
- Mae tua 5,000 o athletwyr yn mynd i Gemau’r Gymanwlad, sy’n golygu mai dyma un o ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mwyaf y byd
- Dim ond chwe gwlad sydd wedi mynychu pob un o'r Gemau Cymanwlad, ac mae Cymru yn un ohonynt
- Cafodd y digwyddiad ei gynnal am y tro cyntaf yn 1930, a chafodd ei alw’n Gemau’r Ymerodraeth Brydeinig ar y pryd. Newidiodd yr enw i Gemau’r Ymerodraeth Brydeinig a’r Gymanwlad yn 1954, i Gemau’r Gymanwlad Brydeinig yn 1970, a daeth yn Gemau’r Gymanwlad yn 1978.