Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon Rhyngwladol » Cyffuriau a Chwaraeon
Yn yr Adran Hon
Cyffuriau a Chwaraeon
Nod chwaraeon yw cystadlu a pherfformio hyd eithaf dy allu, mewn modd glân a theg. Yn y blynyddoedd diwethaf mae chwaraewyr ac athletwyr proffesiynol wedi defnyddio cyffuriau i wella eu perfformiad er mwyn cael mantais annheg dros y cystadleuwyr eraill. Mae llawer o bobl sydd wedi’u darganfod yn gwneud hyn wedi colli eu medalau. Mae rhai wedi cael eu gwahardd rhag cystadlu yn eu campau am weddill eu bywyd.
Twyllo yw defnyddio cyffuriau. Mae’n tanseilio ysbryd sylfaenol chwaraeon ac yn niweidio hygrededd, delwedd a gwerth chwaraeon. Os na fedri di ennill heb ddefnyddio sylweddau neu ddulliau sydd wedi’u gwahardd, yna nid wyt yn ddigon da i ennill.
Trwy gymryd rhan mewn chwaraeon heb ddefnyddio cyffuriau, gallet wella safon dy fywyd trwy ehangu sgiliau byw a gwybodaeth, yn cynnwys ymrwymiad, bod yn deg, a pharchu dy iechyd a lles. Dylai cystadlu mewn chwaraeon heb ddefnyddio cyffuriau fod yn bwysig i bob athletwr. Er hynny, mae gan y rheiny sy’n cystadlu mewn chwaraeon perfformiad uchel gyfrifioldebau ychwanegol i’w dilyn i sicrhau eu bod yn cystadlu’n deg heb dorri’r rheolau.
'Start Clean'
- Mae 'Start Clean' yn rhaglen addysg chwaraeon di–gyffuriau i bobl ifanc yn y DU. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am werth cystadlu mewn chwaraeon di–gyffuriau
- Rhaid i athletwyr ifanc sy’n cystadlu ar y lefel uchaf wybod am y rheolau sy’n ymwneud â chyffuriau, i sicrhau nad ydynt yn eu defnyddio wrth gystadlu
- Rhaid iddyn nhw fod yn ofalus nad ydyn nhw’n cymryd rhywbeth sydd wedi’i wahardd ar ddamwain hefyd
- Mae llawer o foddion cyffredin yn cynnwys sylweddau sydd wedi’u gwahardd, felly dylet ti wneud yn siŵr bod y moddion yn iawn i’w cymryd. Gall wneud hyn trwy’r Bas Data Gwybodaeth Cyffuriau
Bas Data Gwybodaeth Cyffuriau Byd-eang
- Mae’r 'Global Drug Information Database' (Global DID) yn wasanaeth ar–lein sy’n rhoi gwybodaeth barod a chywir i athletwyr a’u tîm cefnogi ynglŷn â pha gyffuriau a sylweddau y mae rheolau chwaraeon yn eu gwahardd
- Gall ymwelwyr chwilio’r 'Global DID' am wybodaeth sy’n benodol i gamp arbennig ar nwyddau sydd ar werth yn y Deyrnas Unedig a Chanada
- Mae’r safle hefyd yn cynnwys gwybodaeth ar ddosbarthiadau sylweddau sydd wedi’u gwahardd ym myd chwaraeon, defnydd therapiwtig a chyngor i athletwyr sy’n hyfforddi ac yn cystadlu dramor
- Ceir rhestr sylweddau a dulliau a waharddir sy’n berthnasol i athletwyr sy’n cystadlu mewn chwaraeon
- Mae’r rhestr yn cynnwys enghreifftiau o sylweddau a waharddir ym myd chwaraeon, a dylai athletwyr fod yn gyfarwydd â dosbarthiadau gwahanol o sylweddau a dulliau na ddylen nhw eu defnyddio