Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon Rhyngwladol » Rali Cymru PF
Yn yr Adran Hon
Rali Cymru PF
Rali Cymru Prydain Fawr yw'r rhan Brydeinig o Bencampwriaeth Rali’r Byd - Mae Pencampwriaeth Rali’r Byd yn gyfres o ralïau modur dros y byd sy’n digwydd yn flynyddol ac yn gorffen gyda gyrrwr a chynhyrchwr ceir yn bencampwyr y byd
- Cafodd y cymal Prydeinig ei gynnal yng Nghymru am y tro cyntaf yn 2005, gan ddisodli Rali’r RAC
- Pencampwriaeth Rali’r Byd yw’r ail ddigwyddiad mwyaf ei fri ym maes chwaraeon ceir yn y byd
- Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar ffyrdd cul yn y coedwigoedd ac yn wlad. O 2011 roedd yn cynnwys cyfnod yn y Gogledd gyda llinell gychwyn yn Llandudno o gwmpas Pen y Gogarth (Great Orme). 2005 oedd y tro cyntaf iddynt gynnal cyfnod dan do arbennig yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd
- Fel arfer mae’r tywydd yn gyfnewidiol – o law, cenllysg ac eira i heulwen. Daw’r ffyrdd yn arbennig o fwdlyd a llithrig pan fo’r tywydd yn wlyb, ac mae hyn yn golygu bod Rali Cymru yn dwrnamaint rhyngwladol anodd iawn
A wyddost di…?
- Cynhaliwyd y Bencampwriaeth Rali'r Byd cyntaf yn 1973
- Rali Cymru PF yw'r digwyddiad unigol mwyaf ym mlwyddyn chwaraeon Prydain ac mae angen oddeutu 5,000 o swyddogion a marsialyddion gwirfoddol ac yn denu o leiaf hanner miliwn o ymwelwyr