Gwybodaeth » Iechyd » Gwasanaethau Iechyd » Ysbytai
Yn yr Adran Hon
Ysbytai
Mae triniaeth ysbyty GIG (Gwasanaeth Iechyd Gwladol) yn rhad ac am ddim yn y DU.
Oni bai ei fod yn achos brys a ti angen cael triniaeth yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys, ni allet gerdded i mewn i ysbyty i gael triniaeth. Bydd meddyg yn cyfeirio ti fel arfer.
Mae mynd i'r ysbyty yn gallu bod yn brofiad brawychus ond mae'r meddygon a'r nyrsys yno i helpu ti, felly paid bod ofn siarad gyda nhw a rhannu unrhyw bryderon.
Fel claf ysbyty, mae gen ti hawliau penodol, gan gynnwys:
- Cyfrinachedd
- Gwrthod cael triniaeth gan fyfyrwyr meddygol
- Gweld dy nodiadau meddygol
- Cael ail farn
- Cael dy gyfeirio at arbenigwr
- Gwrthod cymryd rhan mewn treialon ymchwil
- Cael gwybod am dy iechyd a'r holl opsiynau triniaeth
- Cael ffrind neu berthynas gyda thi
- Cael dehonglydd neu arwyddwr i helpu ti
Efallai bod yna rai pethau hoffet ti ystyried mynd â nhw gyda thi os wyt ti'n mynd i'r ysbyty, fel:
- Ffôn symudol
- Manylion cyswllt ffrindiau a theulu
- Unrhyw foddion rheolaidd
- Dillad nos
- Dillad isaf
- Pethau ymolchi
- Llyfrau a chylchgronau
- Gemau a phosau
- Beiro a phapur
- Bwyd neu fyrbrydau (gofynna i'r meddyg beth ti'n cael, neu ddim yn cael bwyta)