Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Gwasanaethau Iechyd » Meddygon



Meddygon

Pan fyddi di'n cael dy eni rwyt ti'n cael cerdyn meddygol a rhif GIG dy hun. Bydd dy rieni neu warchodwyr hefyd yn cofrestru ti gyda meddyg (meddyg teulu) nes byddi di'n 16 oed.

Bydd dy feddyg ddim ond yn ymgynghori â dy rieni neu warchodwyr os yw'n teimlo nad fedri di benderfynu drosot ti dy hun, neu os wyt ti'n rhoi caniatâd.

Unwaith byddi di'n 16 gallet ti ddewis doctor dy hun, er mae'r rhan fwyaf o bobl yn aros gyda'u meddyg teulu. Sicrha dy fod di'n cael rhif gwasanaeth argyfwng neu du allan i oriau dy feddyg unwaith byddi di wedi cofrestru.

Cer at dy feddyg gyntaf bob tro oni bai ei fod yn wir argyfwng. Nhw fydd yn gallu rhoi'r cyngor gorau i ti a chyfeirio ti at ysbyty neu arbenigwr os bydd angen.

Ers mis Ebrill 2007 mae pawb yng Nghymru â'r hawl i bresgripsiwn am ddim. Gall ymweld ag unrhyw fferyllydd fydd yn gallu rhoi'r presgripsiwn i ti.

Rwyt ti'n rhydd i newid meddygon unrhyw adeg a bydd dy gofnodion meddygol yn cael eu trosglwyddo'n awtomatig i'r meddyg newydd pan ti'n cofrestru.

Mae meddygon yno i helpu ti i wella felly paid bod ofn siarad â nhw yn onest. Mae popeth ti'n ei ddweud yn gyfrinachol.

Os wyt ti'n teimlo bod angen triniaeth brys pan fydd y feddygfa wedi cau, gall alw Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647 (24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos) am gyngor meddygol. Mae ymgynghoriadau a brysbennu (asesiad o ba mor bwysig ydy dy broblem iechyd di) dros y ffôn yn rhan bwysig o ofal tu allan i oriau. Byddant yn cymryd dy fanylion i gyd gan gynnwys dy gyflwr, yna bydd rhywun proffesiynol yn rhoi galwad yn ôl i ti.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50