Gwybodaeth » Iechyd » Gwasanaethau Iechyd » Rhoddion
Rhoddion
Cofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG
- Rhestr genedlaethol, gyfrinachol o bobl sydd yn barod i ddod yn rhoddwyr ar ôl iddynt farw
- Mae rhoi dy enw ar Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG yn gwneud pawb yn ymwybodol o dy ddymuniadau ac yn ei gwneud yn haws iddynt gytuno i'r rhodd
- Ymhlith yr organau gallet eu rhoi mae'r galon, ysgyfaint, pancreas, arennau, coluddyn bach a'r iau. Gellir hefyd roi meinweoedd (tissues) fel y cornbilen (cornea), croen, asgwrn a falfiau'r galon
- Mae 30% o bobl ar Gofrestr Rhoddion Organau'r GIG rhwng 16 a 25 oed pan fyddant yn ymuno. Mae 24% rhwng 26 a 35 oed a 35.9% dros 65 oed pan maen nhw'n ymuno
- Gallet ti ddod yn rhoddwr yn unrhyw oed
- Rwyt ti'n fwy tebygol o fod angen trawsblaniad nag dod yn rhoddwr
- Cofrestra ar www.organdonation.nhs.uk
Rhoi Gwaed
- Gallet ti roi gwaed hyd at deirgwaith y flwyddyn o 17 oed
- Mae gwaed sydd wedi'i roi yn gallu helpu achub bywydau pobl eraill, gan gynnwys dy deulu di
- Dim ond 10 munud mae'n cymryd ac nid yw'n brifo
- Efallai byddi di'n teimlo ychydig yn benysgafn neu'n flinedig ond dyw'r effeithiau ddim yn para'n hir
- Mae'r gwaed ti'n ei roi yn cael ei ailgyflenwi gan dy gorff o fewn dyddiau
- Am fanylion o ble i roi gwaed, cer i wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru ar www.gwaed-cymru.org.uk
Rhoddion Eraill
- Gall hefyd roi wyau a sberm i helpu pobl anffrwythlon i gael plant
- Mae mêr esgyrn (bone marrow) hefyd yn gallu cael ei roi i helpu pobl gyda chyflyrau fel lewcemia