Gwybodaeth » Iechyd » Gwasanaethau Iechyd » Llyagid
Yn yr Adran Hon
Llygaid
Prawf Llygaid
Fe ddylet ti gael prawf llygaid rheolaidd hyd yn oed os nad wyt ti'n dioddef o unrhyw broblemau. Gall profion rheolaidd ddatgelu clefyd llygaid fel glawcoma cyn iddo effeithio ar dy olwg. Gall hefyd ganfod problemau iechyd eraill fel diabetes.
Dydy prawf llygaid ddim yn ymwneud â chael sbectol yn unig, mae'n ymwneud â chadw dy lygaid yn iach. Mae profion llygaid yn ddi-boen (er y gallent fod ychydig yn anghyffyrddus, ond dim ond am gyfnod byr iawn) ac yn cymryd tua 30 munud fel arfer.
Dewis optegydd (optometrydd) cofrestredig yn agos i ble ti'n byw neu cer ar www.nhsdirect.wales.uk/localservices i ddarganfod un yn agos. Mae'r bobl yn y categorïau isod efo hawl i brawf llygaid GIG am ddim:
- Os o dan 16*
- Yn 16,17 neu 18 ac mewn addysg lawn*
- Yn 60 oed neu drosodd
- Yn dioddef o glawcoma
- Yn 40 neu drosodd ac un ai yn rhiant, brawd, chwaer, mab neu ferch i rywun sydd yn dioddef o glawcoma, neu
- Wedi cael cyngor gan feddyg offthalmig eu bod mewn risg o glawcoma
- Yn dioddef o ddiabetes
- Wedi'u cofrestru'n ddall neu'n rhannol ddall
- Angen lensys cymhleth*
- Pan fydd prawf llygaid yn cael ei gyflawni gan adran llygaid yn yr ysbyty fel rhan o reolaeth cyflwr optegol
- Os yw'r claf neu bartner y claf yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar Sail Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith ar Sail Incwm neu Gredyd Pensiwn: Credyd Gwarant*
- Os enwir ar dystysgrif eithrio credyd treth GIG dilys*
- Os enwir ar dystysgrif HC2W dilys
- Cymorth rhannol tuag at gost prawf llygaid preifat os enwir mewn HC3W dilys
(*Hefyd â hawl i dalebau GIG tuag at gost sbectol neu lensys cyffwrdd)
Gallet hefyd gael talebau GIG tuag at sbectol a lensys cyffwrdd, gellir eu defnyddio tuag at gost unrhyw optegydd. Rhoddir y rhain i ti gan dy feddyg neu ysbyty os oes angen.
Llawdriniaeth Llygaid â Laser
Mae llawdriniaeth llygaid â laser yn defnyddio laser i gywiro hir olwg neu olwg byr. Mae yn a nifer o glinigau llygaid ar y stryd fawr sy'n defnyddio laser, ond gwna'n siŵr mai meddyg profiadol sydd yn trin ti. Os fedri di, defnyddia llawfeddyg argymelledig.
Er mai triniaeth sydyn a syml ydyw, gallai arwain at gymhlethdodau fel ecstasia cornbilennol (pwysau hylif yn cynyddu ar y llygad), llygaid sych neu broblemau gweld yn y nos. Mewn rhai achosion, gall hefyd achosi i'r golwg waethygu.