Gwybodaeth » Iechyd » Gwasanaethau Iechyd » Iechyd y Geg
Yn yr Adran Hon
Iechyd y Geg
Mae gen ti hawl i driniaeth ddeintyddol am ddim ar GIG os wyt ti:
- Dan 18, neu'n fyfyriwr llawn amser dan 19
- Yn feichiog pan mae'r driniaeth yn cychwyn, neu os wyt ti wedi cael babi yn y 12 mis diwethaf
- Rwyt ti neu dy bartner yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith ar Sail Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar Sail Incwm neu Gredyd Pensiwn: Credyd Gwarant
- Os enwir ar Dystysgrif Eithrio Credyd Treth GIG
- Os enwir ar dystysgrif HC2 y GIG ar gyfer cymorth llawn gyda chostau iechyd
Mae archwiliadau deintyddol am ddim yng Nghymru os:
- Wyt ti o dan 25 oed
- Wyt ti'n 60 oed neu drosodd
Beth yw'r gost o driniaeth ddeintyddol y GIG?
Mae'r rhestr ganlynol, sydd yn berthnasol yng Nghymru, yn cynnwys esiamplau o sut mae'r band pris cyfoes yn perthnasu i rai o'r triniaethau, dulliau a gwasanaethau deintyddol cyffredin. Mae'r prisiau yma yn gywir o fis Hydref 2013:
Band 1 = £12.70
- Digennu a chaboli (scale and polish) sylfaenol* (gweler manylion isod)
- Archwiliad, asesiad achos ac adrodd
- Cyngor, diagnosis a chynllunio triniaeth
- Pelydr-x ac adroddiadau
- Cyfarwyddyd ar atal clefyd deintyddol a geneuol gan gynnwys cyngor dietegol a chyfarwyddyd hylendid deintyddol
- Cywiriad ffiniol o lenwadau (fillings)
- Addasiad a lleddfu dannedd gosod neu offer orthodonteg
* Gall pris triniaeth digennu a chaboli amrywio yn ddibynnol ar beth yn union sydd yn cael ei wneud, felly gofynna i dy hylenydd deintyddol faint fydd y driniaeth o flaen llaw. Dylai triniaeth GIG gostio £12.70 am driniaeth sylfaenol, neu £41.10 am driniaeth uwch.
Band 2 = £41.10
- Digennu a chaboli uwch* (gweler manylion uchod)
- Llenwadau parhaol
- Tynnu dannedd
- Trawsblaniad dannedd
- Llawfeddygaeth geneuol gan gynnwys tynnu coden, daint sydd heb dyfu allan a daint cywasgedig yn llawfeddygol
Band 3 = £177
- Dant gosod gan gynnwys unrhyw gymorth pin neu bostyn i ddal gafael
- Pontydd gan gynnwys unrhyw gymorth pin neu bostyn i ddal gafael
- Dannedd gosod llawn neu rannol
- Triniaeth ac offer orthodonteg
- Offer eraill sydd wedi'i greu ar fesuriadau'r claf ac eithrio gwarchodydd chwaraeon
- Mae'r taliadau yn cael eu gwneud am gwrs o driniaeth, felly, er esiampl, os oes angen tri llenwad, dim ond un taliad triniaeth sydd
Mae archwiliadau rheolaidd yn hanfodol os wyt ti eisiau osgoi arogl drwg ar dy wynt, dannedd wedi'u staenio, heintiau cig y dannedd a phroblemau iechyd deintyddol eraill. Os oes gen ti arogl drwg ar dy wynt, cig dannedd dolurus neu'n gwaedu, neu'r ddannoedd, yna trefna apwyntiad i weld dy ddeintydd.
Mewn achosion deintyddol brys, fel dannedd yn gwaedu'n ddi-baid, gwefusau, tafod neu foch wedi chwyddo ac anaf i'r dannedd neu'r ên, dylai rhoi gwybod i'r deintydd ar unwaith a threfnu apwyntiad brys cyn gynted â phosib.
I ddod o hyd i ddeintydd lleol, ffonia Galw IECHYD ar 0845 46 47. Rwyt ti'n rhydd i ddewis dy ddeintydd, bod hyn yn ddeintydd GIG neu breifat, ond bydd dy gofrestriad gydag un deintydd yn gorffen os wyt ti'n ymweld ag un arall.