Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gwleidyddiaeth » Yr Hawl i Bleidleisio



Yr Hawl i Bleidleisio

Dy bleidlais di ydy dy ffordd o fynegi'n ffurfiol pwy fyddet ti'n hoffi fel dy AS lleol a pha blaid wleidyddol hoffet ti weld mewn grym.

  • Yn y DU gall unrhyw un gofrestru i bleidleisio yn 16 oed ond mae'n rhaid bod yn 18 oed i bleidleisio mewn etholiadau cenedlaethol. Drwy gofrestru i bleidleisio rwyt ti'n cael dy gynnwys ar y gofrestr etholiadol dan dy gyfeiriad di
  • Fel dinesydd yn y DU, mae gen ti'r hawl i bleidleisio ond gall ddewis peidio â gwneud
  • Mae rhai pobl yn pleidleisio am AS oherwydd eu bod nhw'n cynrychioli'r materion sydd yn bwysig iddyn nhw a bydda nhw'n hoffi gweld rhywbeth yn digwydd yn eu hardal leol
  • Mae rhai pobl yn pleidleisio am AS oherwydd y blaid wleidyddol maent yn cynrychioli a pa blaid hoffant weld mewn grym yn y wlad
  • Mae dy hawl di i bleidleisio yn bwysig am mai dyma dy gyfle di i newid y ffordd mae dy wlad di yn cael ei lywodraethu. Am wybodaeth bellach cer i Gwleidyddiaeth y DU
  • Nid oedd pawb yn y DU efo hawliau pleidleisio cyfartal drwy'r adeg ac roeddent yn ymdrechu i gael yr hawliau a'r rhyddid yma, er esiampl, cafodd merched bleidlais am y tro cyntaf yn y DU yn 1918, a dim ond i ferched dros 30 oed. Caniatawyd i ferched bleidleisio ar yr un telerau â dynion yn 1928

Pleidleisio yng Nghymru

  • Yng Nghymru, rwyt ti'n pleidleisio am bwy fyddet ti'n hoffi ei gael fel dy AS lleol, ond hefyd yn ethol Aelod Cynulliad
  • Gweler adran Gwleidyddiaeth Cymru ar wefan CLIC

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50