Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gwleidyddiaeth » Gwleidyddiaeth Ewrop
Yn yr Adran Hon
Gwleidyddiaeth Ewrop
Mae Ewrop yn gyfandir ffyniannus ac mae gwleidyddiaeth ei gwledydd yn amrywio’n eang. Mae’r rhan fwyaf o wledydd oddi mewn i Ewrop yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd (yr UE).
Undeb Ewropeaidd
Undeb rynglywodraethol o 28 o aelod-wladwriaethau yw’r Undeb Ewropeaidd. Nod yr undeb yw creu cynghrair economaidd a gwleidyddol rhwng yr aelod-wladwriaethau, yn arbennig ynghylch masnach.
Mae mwyafrif o wledydd yr UE efo arian cyffredin gelwir yn Ewro, er dydy'r DU ddim wedi ymuno ag ef.
Nid oes angen trwydded waith ar ddinasyddion yr UE er mwyn gallu symud o gwmpas a gweithio mewn gwahanol wledydd.
Mae'r canlynol yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd ac yn cynnwys y flwyddyn daethant yn rhan ohono:
- Awstria (1995)
- Gwlad Belg (1952)
- Bwlgaria (2007)
- Croatia (2013)
- Cyprus (2004)
- Y Weriniaeth Tsiec (2004)
- Denmarc (1973)
- Estonia (2004)
- Y Ffindir (1995)
- Ffrainc (1952)
- Yr Almaen (1952)
- Gwlad Groeg (1981)
- Hwngari (2004)
- Iwerddon (1973)
- Yr Eidal (1952)
- Latfia (2004)
- Lithwania (2004)
- Lwcsembwrg (1952)
- Malta (2004)
- Yr Iseldiroedd (1952)
- Gwlad Pwyl (2004)
- Portiwgal (1986)
- Rwmania (2007)
- Slofacia (2004)
- Slofenia (2004)
- Sbaen (1986)
- Sweden (1995)
- Y Deyrnas Unedig (1973)
Ar y ffordd i ddod yn aelodau o'r UE:
- Gwlad yr Iâ
- Montenegro
- Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia
- Twrci
Ymgeiswyr potensial:
- Albania
- Bosnia-Herzegovina
- Kosovo
Mae'r gwledydd sydd ddim yn yr UE yn cynnwys:
- Norwy
- Y Swistir
- Macedonia
- Ukrain
- Belarws
- Liechtenstein
- Andorra
- Y Fatican
- San Marino
Gall y rhai nad ydyn nhw’n aelodau o’r UE ddewis i beidio â bod yn aelodau neu efallai nad ydyn nhw wedi cael eu derbyn oherwydd nad ydyn nhw’n bodloni safonau economaidd yr UE neu oherwydd eu ffordd o drin hawliau dynol yn y gorffennol.
Cymru a'r Undeb Ewropeaidd
Mae'r UE yn cyfrannu llawer i dyfiant economaidd Cymru.
- Mae wrthi’n gweithio i gynorthwyo Cymru ym meysydd cymorth datblygu rhanbarthol, lleihau diweithdra, trafnidiaeth, ariannu ymchwil, materion amgylcheddol a chefnogi busnesau bach, ymysg pethau eraill
- Mae Cymru’n manteisio ar filiynau o bunnoedd gan yr UE er mwyn cynorthwyo â datblygiad economaidd, ac mae’n ariannu nifer o brosiectau a sefydliadau yn y wlad
- Mae arian yr UE hefyd yn golygu bod pobl Cymru yn rhydd i symud ar draws y 28 o aelod-wladwriaethau