Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gwleidyddiaeth » Gwleidyddiaeth Ieuenctid



Gwleidyddiaeth Ieuenctid

Mae gwleidyddiaeth ieuenctid yn broses a ffordd o gynnwys pobl ifanc mewn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio nhw fel unigolion, grwpiau neu mewn cyd-destun ehangach o faterion sydd yn effeithio'r wlad neu genedl.

Gall gwleidyddiaeth ieuenctid ymwneud â chyfranogaeth disgyblion mewn ysgolion, chynghorau ysgol, grwpiau ieuenctid, fforymau ieuenctid neu dy gyfraniad personol i wleidyddiaeth fel rhywun ifanc.

Gall dy bryderon gwleidyddol fod mor lleol â cheisio cael offer newydd yn dy ysgol, neu mor gyffredinol â hawliau anifeiliaid neu bobl.

Sut i gymryd rhan

  • Yn ddibynnol ar beth rwyt ti'n teimlo angerdd tuag ato a'r materion ti'n meddwl sy'n bwysig, mae yna sawl ffordd i ti gymryd rhan weithgar mewn gwleidyddiaeth fel person ifanc
  • Gall unrhyw un fynychu gwrthdystiadau a phrotestiadau sy’n cael eu trefnu'n aml gan bleidiau gwleidyddol neu grwpiau ymgyrchu sy’n ymladd dros newid mewn polisi neu gymdeithas
  • Ymuna â changen ieuenctid plaid wleidyddol neu grŵp ymgyrchu - mae gan bron pob plaid gangen ieuenctid os wyt ti dan 18 mlwydd oed. Os wyt ti’n 18 neu’n hŷn, gall ymuno â’r brif blaid wleidyddol
  • Ceisia ysgrifennu at dy AS lleol, aelod o’r cabinet neu’r Prif Weinidog i fynegi dy farn neu i brotestio
  • Gallet ti hefyd ddechrau grŵp gwleidyddol yn dy ysgol neu gymryd rhan mewn cyfranogaeth disgybl o fewn yr ysgol neu ymuno gyda'r cyngor ysgol
  • Gweler yr adran Gweithredaeth ac Ymgyrchu o fewn Cyfraith a Hawliau

Gwleidyddiaeth ieuenctid yng Nghymru

Gallet ti gymryd rhan mewn dadleuon, sy’n rhan bwysig o wleidyddiaeth ac sy’n cynnwys pynciau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â materion cyfoes.

  • Mae CEWC Cymru yn gystadleuaeth dadlau lle mae dau ddisgybl o ysgol gyfun yn gwneud tîm ac yn dadlau yn erbyn ysgolion eraill am bynciau neu gynigion. Gofynna i’r ysgol, yn arbennig yr adran Saesneg neu’r adran Wleidyddiaeth, am wybodaeth
  • Cystadleuaeth yw Ffug Gynulliad Cymru, lle mae timau o ddisgyblion o amryw o ysgolion cyfun yn gweithredu fel pwyllgor Llywodraeth Cymru ac yn dadlau yn erbyn ysgolion eraill. Gofynna i'r ysgol am wybodaeth
  • Cystadleuaeth yw Model y CU lle mae pobl ifanc yn cael rôl go wir, megis Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, neu wlad i’w chynrychioli, ac maen nhw’n gallu cymryd rhan mewn model o drafodaeth y Cenhedloedd Unedig

Y Ddraig Ffynci

'Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru' yw’r Ddraig Ffynci

  • Ei nod yw rhoi’r cyfle i rai Dan 25 mlwydd oed fynegi eu barn am bynciau sy’n effeithio arnyn nhw, yn enwedig gan Lywodraeth Cymru
  • Mae gan y Ddraig Ffynci dri aelod ieuenctid o bob un o 22 o ardaloedd yng Nghymru
  • Gallet ti gymryd rhan trwy dy gyngor ieuenctid lleol neu'r cyngor ysgol

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50