Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gwleidyddiaeth » Gwleidyddiaeth Cymru
Yn yr Adran Hon
Gwleidyddiaeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi'i datganoli, sy'n golygu bod pwerau penodol wedi cael ei drosglwyddo o lywodraeth ganolog y DU yn San Steffan i lywodraeth ranbarthol yng Nghymru.
- Ffurfiwyd y Cynulliad dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 gan y llywodraeth Lafur, ar ôl refferendwm ym 1997 lle cafodd pobl Cymru gyfle i bleidleisio
- Mae gan Lywodraeth Cymru'r grym i greu deddfwriaeth ddomestig yng Nghymru, fel cyfreithiau sy’n ymwneud ag iechyd, addysg, amaethyddiaeth, trafnidiaeth a llywodraeth leol
- Mae Llywodraeth y DU yn edrych ar ôl ardaloedd eraill fel amddiffyniad, trethu, pensiynau a budd-daliadau. Gweler yr adran ar Wleidyddiaeth y DU [link to 3i4 UK Politics in Welsh] am wybodaeth bellach
- Agorwyd adeilad Llywodraeth Cymru, sef Y Senedd, fis Mawrth 2006
- Llywodraeth Cymru (LlC) yw prif gorff y Cynulliad Cenedlaethol, yn debyg i gabinet llywodraeth Prydain. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei ethol mewn modd democrataidd ac yn gwneud Llywodraeth Cymru yn atebol
- Mae LlC yn cynnwys Prif Weinidog Cymru, ac un gweinidog ar gyfer pob maes, fel Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Etholiadau Llywodraeth Cymru
Yng Nghymru, yn ogystal â phleidleisio dros Aelod Seneddol (AS), mae yna etholiad ar wahân lle mae pobl yn pleidleisio dros Aelod Cynulliad (AC).
Mae gan bob papur pleidleisio ddwy bleidlais:
- Mae un i bleidleisio dros AC i gynrychioli dy etholaeth, sef yr ardal wleidyddol sydd hefyd yn cael ei chynrychioli gan dy AS, er enghraifft Sir Drefaldwyn, neu Flaenau Gwent
- Mae’r bleidlais arall er mwyn penderfynu ar gynrychiolydd rhanbarthol. Mae Cymru wedi’i rhannu’n bum ardal yn seiliedig ar ardaloedd yr Undeb Ewropeaidd, ac mae gan bob ardal bedwar AC
- Mae gan bob sir a dinas yng Nghymru gyngor lleol. Mae gan Gymru 22 o awdurdodau unedol
- Yn yr un modd ag y ceir etholiad i benderfynu pwy fydd yn AS neu’n AC, mae etholiadau lleol yn penderfynu pwy fydd yn gynghorwyr
- Mae cynghorau lleol yn penderfynu ar bethau fel addysg leol, casglu sbwriel, rhai gwasanaethau cymdeithasol, trafnidiaeth leol, peth gwariant ar addysg a gwasanaethau pobl ifanc
Gwleidyddiaeth Cymru Leol