Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gwleidyddiaeth » Gwleidyddiaeth Gweddill y Byd
Yn yr Adran Hon
Gwleidyddiaeth Gweddill y Byd
Mae yna 195 o wladwriaethau sofran neu wledydd yn y byd ac mae'r mwyafrif ohonynt yn cael eu rhedeg gan wahanol systemau gwleidyddol.
Mewn termau economaidd, gall y byd hefyd gael ei rannu’n fyd datblygedig a’r Trydydd Byd. Term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio gwledydd sy’n economaidd sefydlog yw byd datblygedig, fel y rheiny yn Ewrop a Gogledd America. Mae’r Trydydd Byd yn aml yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio gwledydd tlawd iawn, fel gwledydd penodol yn Affrica ac Asia.
Mae gwleidyddiaeth y byd yn bwnc hynod o gymhleth, a bydd pobl yn neilltuo’u bywydau cyfan yn ceisio deall rhannau bach ohoni yn unig.
Y Sbectrwm Gwleidyddol
Ffordd o ddisgrifio credoau gwleidyddol pobl ar linell ddychmygol yw’r sbectrwm gwleidyddol. Ar un pen iddo mae safbwyntiau adain-chwith, ac ar y pen arall mae safbwyntiau adain-dde.
Adain-chwith
- Mae syniadau adain-chwith yn hybu cymdeithas gyfartal. Bydd llywodraeth adain-chwith yn rheoli cyfoeth ac adnoddau gwlad er mwyn eu hailddosbarthu nhw. Bydd arian yn cael ei ddosbarthu er mwyn bod o fudd i bawb yn hytrach nag aros yn nwylo ychydig o bobl gyfoethog
- Bydd llywodraeth adain-chwith yn sicrhau bod yr holl ddarpariaethau’n cael eu darparu gan y wladwriaeth, fel gofal iechyd, addysg a budd-daliadau diweithdra
- Mae ideolegau adain-chwith yn cynnwys comiwnyddiaeth, sosialaeth, Marcsiaeth a rhyddfrydiaeth gymdeithasol
Adain-dde
- Mae syniadau adain-dde yn pwysleisio ymdeimlad personol o ddyletswydd yn hytrach na bod rhywbeth yn ddyledus i gymdeithas. Bydd llywodraeth adain-dde yn goruchwylio cyfoeth yn hytrach na’i reoli, a bydd unigolion yn rhedeg diwydiant ac arian er eu budd nhw'u hunain
- Mae safbwyntiau adain-dde yn caniatáu rhyddid i bobl greu eu cyfoeth eu hunain
- Mae ideolegau adain-dde yn cynnwys ffasgiaeth, cenedlaetholdeb, ceidwadaeth, rhyddfrydiaeth economaidd a gwleidyddiaeth adweithiol
Mae’n hawdd siarad am wleidyddiaeth adain-chwith a gwleidyddiaeth adain-dde, ond mewn gwirionedd, mae’n anodd iawn dod o hyd i enghraifft sy’n diffinio’r un o’r ddau yn glir. Mae pethau da a phethau drwg wedi’u gwneud yn enw gwleidyddiaeth adain-chwith ac adain-dde.
Gall ddarganfod profion a chwisiau ar-lein fydd yn helpu ti i ddarganfod os ydy dy gredoau yn adain chwith neu dde.
Yn ddau ben y sbectrwm gwleidyddol mae grym wedi, ac yn, cael ei ddefnyddio yn aml i orfodi cyfyngiadau llym ar bobl. Gwelwyd hyn yn ystod yr 20fed ganrif pan oedd y gyfundrefn gomiwnyddol yn Rwsia a’r ffasgiaid dan Adolf Hitler yn defnyddio trais er mwyn cynnal grym gwleidyddol.
Roedd brwydro rhwng comiwnyddiaeth a chyfalafiaeth yn cael ei weld yn aml iawn yn yr 20fed ganrif.
Cyfalafiaeth
- Mae cyfalafiaeth yn system economaidd a gwleidyddol lle mae unigolion neu gwmnïau’n berchen ar ddulliau gwlad o gynhyrchu, er enghraifft diwydiant, amaethyddiaeth a thwristiaeth. Mae’r unigolion a’r cwmnïau yma’n gweithio am elw
Comiwnyddiaeth
- System wleidyddol sy’n gwbl groes i gyfalafiaeth yw comiwnyddiaeth. Y wladwriaeth sy’n rhedeg dulliau’r wlad o gynhyrchu ac mae’r enillion yn cael eu rhannu’n gyfartal
- Ni chaniateir i bobl fod yn berchen ar dir neu dai preifat. Yn lle hyn, mae’r wladwriaeth yn dyrannu’r tai
- Mewn democratiaeth, bydd pobl yn pleidleisio dros rywun i’w cynrychioli yn y llywodraeth, a bydd y llywodraeth honno’n gwneud penderfyniadau ar sut i redeg gwlad er mwyn bod o fantais i’r rhan fwyaf o bobl. Mae'r DU yn ddemocratiaeth, gyda Ffrainc ac UDA ill dau yn ddemocratiaethau ond gydag Arlywydd sydd wedi’i ethol yn bennaeth y wladwriaeth
- Mae protestio’n ffurf bwysig ar fynegiant gwleidyddol mewn democratiaeth. Mae llawer o bobl Prydain yn protestio yn erbyn polisi llywodraeth. Yn 2003, fe wnaeth bron i ddwy filiwn o bobl orymdeithio trwy Lundain i brotestio yn erbyn ymosod ar Irac
- Am wybodaeth bellach cer i adran Gweithredaeth ac Ymgyrchu yn Cyfraith a Hawliau
- Mae unbennaeth yn fath o lywodraeth ble mae un person neu blaid wleidyddol yn rheoli'r wlad a'i phobl heb gyfyngiadau cyfreithiol na chyfansoddiadol
- Enghreifftiau o unbenaethau ydy'r Almaen dan Adolf Hitler, a'r hen Undeb Sofietaidd dan arweinyddion comiwnyddol fel Joseph Stalin
- Math o lywodraeth lle mae crefydd yn bwysicach na dim arall wrth greu polisïau a gwneud penderfyniadau, fel dinas y Fatican neu Iran
- Gwlad lle mae’r brenin/frenhines, neu’r teulu brenhinol yn rheoli’r wlad yw brenhiniaeth. Mae Saudi Arabia’n cael ei reoli gan deulu brenhinol
- System lle nad oes llywodraeth ac mae pobl yn byw heb gyfreithiau na rheolau o unrhyw fath. Nid oes cymdeithas anarchaidd wedi bodoli yn swyddogol mewn amseroedd modern ond mae anarchiaeth wedi digwydd yn aml yn ystod rhyfel neu argyfwng
- Math o lywodraethu sy’n ystyried bod y lluoedd arfog yn rhan bwysig iawn o’r wladwriaeth a’r llywodraeth, mae'r Aifft yn esiampl o hyn
- Mae rhai o’r cyrff yma’n cynnwys y Cenhedloedd Unedig, Sefydliad Masnach y Byd ac INTERPOL
- Mae cyrff Ewropeaidd yn cynnwys yr Undeb Ewropeaidd, Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop, Asiantaeth Gofod Ewrop a Chyngor Ewrop
- Mae mudiadau arwyddocaol eraill yn cynnwys Y Gynghrair Arabaidd, Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO), G8, y Gymanwlad a Sefydliad y Gyngres Islamaiddv
- Mae yna gyrff anllywodraethol (NGOs) hefyd fel Oxfam sy’n chwarae rhan mewn llunio polisi llywodraeth
- Os oes dwy wlad yn rhyfela, neu os oes rhyfel cartref, bydd y Cenhedloedd Unedig weithiau’n anfon llu rhyngwladol i mewn i geisio rhoi diwedd ar y trais. Digwyddodd hyn yn y 1990au yn ystod y rhyfel yn y Balcanau
- Fe wnaeth lluoedd Prydain ac America ymosod ar Irac yn 2003, ond fe wnaethant hynny heb gefnogaeth y Cenhedloedd Unedig. Dyma’r rheswm pam mae rhai pobl yn credu bod y rhyfel yma’n anghyfreithlon
- Yn ogystal â rhyfeloedd sydd yn y newyddion bob amser ym Mhrydain, mae dwsinau o wrthdrawiadau eraill yn digwydd ledled y byd. Mae rhyfel cartref wedi bod yn digwydd yng ngogledd Uganda ers yr 20 mlynedd diwethaf. Yn Sri Lanca, mae lluoedd llywodraethol a grŵp gwrthryfela o’r enw Tamil Tigers wedi bod yn ymladd ei gilydd ers yr 1980au
- Gall llywodraethau neu unigolion a grwpiau gwleidyddol fod yn gyfrifol am derfysgaeth
- Mae terfysgaeth yn aml yn digwydd pan mae dau grŵp diwylliannol gwahanol yn gwrthdaro. Yn aml, rhwystredigaeth grŵp arbennig sy’n teimlo nad yw eu barn nhw’n cael ei gynrychioli’n ddigonol mewn systemau gwleidyddol traddodiadol sy’n achosi’r gwrthdaro yma
- Gall grwpiau a oedd ar un adeg yn cael eu hystyried yn derfysgwyr ennill grym i greu llywodraethau cyfreithlon. Cafodd Nelson Mandela ei gadw yn y carchar yn Ne Affrica am 25 o flynyddoedd oherwydd bod y llywodraeth ar y pryd yn ei ystyried yn derfysgwr
- Ers troad yr 21ain ganrif, mae terfysgaeth wedi cael lle blaenllaw yng ngwleidyddiaeth y byd
- Ers ymosodiadau Medi’r 11eg, mae teimlad newydd wedi bod ymysg llawer o bobl, yn arbennig yn y Gorllewin, bod gweithredoedd terfysgol yn anodd iawn i’w cyfiawnhau
- Nid oes yr un wlad wedi cyhoeddi cefnogaeth i Al-Qaida, ac ni wnaeth unrhyw un o’r gwledydd sy’n aelodau o’r Cenhedloedd Unedig wrthwynebu i ymosodiad UDA ar Afghanistan mewn ymateb i Fedi’r 11eg
- Maen nhw wedi’u seilio ar urddas dynol a’r syniad bod pawb yn gyfartal ac y dylen nhw gael hawliau cyfartal
- Mae yna ymyriadau gwahanol â hawliau dynol ledled y byd
- Yr ymyriadau mwyaf â hawliau dynol yn y byd heddiw yw rhyfel, tlodi enfawr, digartrefedd a newyn, cam-drin plant, gwahaniaethu ar sail hil, gorthrymu merched, carcharu annheg ac arteithio
- Am fwy o wybodaeth, gweler adran Hawliau Dynol y wefan
- Arweiniodd y trais rhwng gwahanol grwpiau crefyddol ar ôl yr Ail Ryfel Byd at ymrannu India yn ddwy wlad ar wahân, sef India a Phacistan. Mae gwrthdrawiadau crefyddol yn parhau i effeithio ar berthnasoedd rhwng y ddwy wlad
- Yn aml iawn, mae yna fwy na materion crefyddol dan sylw. Efallai y bydd pobl yn gwahaniaethu yn erbyn lleiafrif crefyddol, naill ai’n agored neu trwy ddulliau economaidd. Efallai nad yw grŵp penodol yn cael anfon eu plant i ysgolion da
- Gweler adran Crefydd [link to 3j Religion in Welsh] gwefan CLIC am wybodaeth ar grefyddau unigol
- Mae gan lawer o wledydd tlawd ddyledion mawr iawn ac mae swm yr arian sy’n ddyledus ganddyn nhw’n cynyddu o hyd
- Mae ceisio talu’r ddyled yn frwydr ddifrifol i rai gwledydd. Er enghraifft, mae Affrica Is-Sahara’n talu $10 biliwn bob blwyddyn yn gwasanaethu dyled sy’n bedair waith yr arian y mae’r gwledydd yn Affrica Is-Sahara yn ei wario ar ofal iechyd ac addysg
- Mae gweithredwyr rhyddhad oddi wrth ddyledion, a llawer o bobl eraill, yn dweud y dylid dileu dyled y trydydd byd oherwydd bod llywodraethau cyfoethog yn gallu fforddio gwneud hebddo
- Am fwy o wybodaeth, gweler adran Twf a Datblygiad Economaidd y wefan
- Mae bron i dri biliwn o bobl yn y byd yn byw ar lai na dwy ddoler y dydd
- Mae cyfoeth y 48 cenedl dlotaf yn y byd yn llai na chyfoeth y tri pherson cyfoethogaf wedi’i roi at ei gilydd
- Ymgyrch Brydeinig yw Rhown Derfyn ar Dlodi. Ei bwriad yw annog pobl, yn enwedig pobl ifanc, i helpu i roi diwedd ar dlodi byd-eang trwy godi ymwybyddiaeth a rhoi arian
- Am fwy o wybodaeth, gwelwer yr adran Tlodi ar y wefan
Mathau o lywodraeth
Democratiaeth:
Unbennaeth:
Theocratiaeth:
Brenhiniaeth:
Anarchiaeth:
Militariaeth:
Gall gwlad roi mwy nag un o’r syniadau hyn ar waith ar yr un pryd, er enghraifft ’unbennaeth filwrol’, ’brenhiniaeth ddemocrataidd’ neu ’ddemocratiaeth sosialaidd’.
Mae Prydain yn frenhiniaeth ddemocrataidd, lle mae’r Frenhines yn bennaeth ar y wladwriaeth, ond llywodraeth etholedig sy’n gwneud penderfyniadau pwysig. Am wybodaeth bellach cer i adran Gwleidyddiaeth y DU/
Mudiadau gwleidyddol y byd
Dros y blynyddoedd, mae mudiadau wedi’u creu er mwyn uno gwledydd am resymau gwleidyddol neu economaidd.
Materion cyfoes y byd
Mae yna lawer o faterion gwleidyddol pwysig ac anodd yn wynebu’r byd heddiw sy’n cynnwys rhyfel, dyled y Trydydd Byd, tlodi, newyn a newid hinsawdd.
Mae’r materion yma’n aml yn croestorri ac yn effeithio’r naill ar y llall. Er enghraifft, terfysgaeth a chrefydd, neu dlodi a dyled.
Rhyfel
Mae rhyfel wedi bod yn un o’r prif faterion yng ngwleidyddiaeth y byd erioed. Ers 1945, dim ond 26 diwrnod sydd wedi bod heb ryfel.
Terfysgaeth
Defnyddio trais i greu aflonyddwch er mwyn ysgogi newid gwleidyddol neu ennill rhywbeth yn bersonol yw terfysgaeth.
Hawliau Dynol
Y syniad bod gan bawb hawliau cyffredinol, waeth beth fo’u hil, eu rhyw, eu cenedl na’u hethnigrwydd yw hawliau dynol.
Crefydd
Mae gan grefydd rôl fawr yng ngwleidyddiaeth y byd. Gall crefydd fod yn un o brif achosion gwrthdaro, fel yn y rhyfel rhwng Palestina ac Israel, neu drais yr IRA yng Ngogledd Iwerddon.
Dyled y Trydydd Byd
Arian yw hwn sy’n ddyledus gan wledydd y Trydydd Byd i lywodraethau gwledydd eraill.
Tlodi
Pan mae pobl yn byw mewn tlodi, maen nhw’n brin o bethau angenrheidiol sylfaenol fel bwyd, dŵr, cysgod, gofal iechyd ac addysg.