Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gwleidyddiaeth » Gwleidyddiaeth y DU
Yn yr Adran Hon
Gwleidyddiaeth y DU
Mae gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig yn digwydd dan system brenhiniaeth gyfansoddiadol.
- Y Frenhines yw pennaeth y wladwriaeth
- Mae gan y llywodraeth rym gweithredol, a’r Prif Weinidog yw pennaeth y llywodraeth
- Mae'r llywodraeth yn cael ei ffurfio yn ddemocrataidd gyda dinasyddion yn cymryd rhan mewn ethol Aelodau Seneddol (ASau) fel cynrychiolwyr yn eu hardal leol
- Mae'r blaid wleidyddol sydd â'r mwyafrif o 'seddau' neu ASau wedi'u hethol, yn dod yn blaid mewn grym ac mae'r arweinydd yn dod yn Brif Weinidog
- Mae'r Prif Weinidog yn dewis ASau i fod yn weinidogion fydd yn creu'r llywodraeth ac yn dod yn benaethiaid ar wahanol adrannau
- Mae'r llywodraeth yn cynnwys adrannau, neu weinyddiaethau, er esiampl: Gweinyddiaeth Amddiffyn, Gweinyddiaeth Materion Tramor a Materion y Gymanwlad, Gweinyddiaeth Trafnidiaeth
- Mae tua 20 o’r uwch weinidogion, fel Y Gweinidog Amddiffyn a’r Ysgrifennydd Cartref, yn rhan o’r cabinet
- Mae sefydliad o’r enw gwasanaeth sifil yn rhoi penderfyniadau’r gweinidogion ar waith. Dynion a merched cyffredin ydy’r rhain sy’n gweithio ar ran y llywodraeth, ond ni ddylai pa blaid wleidyddol sydd mewn grym effeithio arnyn nhw
- 'Whitehall' yw’r enw cyffredin am graidd canolog y gwasanaeth sifil. Mae hyn oherwydd bod gan y rhan fwyaf o adrannau’r llywodraeth bencadlysoedd yn hen Balas Brenhinol Whitehall ac o’i amgylch
- Mae’r Senedd yn cyfarfod ym Mhalas Westminster
- Mae’r Senedd yn cynnwys Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi
Pleidiau Gwleidyddol
Mae gwleidyddiaeth y DU yn system amlbleidiol lle mae peth grym wedi’i ddatganoli i Gymru, i raddau llai, i Ogledd Iwerddon ac yr Alban wedi'i ddatganoli yn llwyr gyda llywodraeth a grymoedd creu cyfreithiau eu hunain. Am wybodaeth bellach am Lywodraeth Cymru a'i bwerau edrycha ar yr adran Gwleidyddiaeth Cymru.
Y prif bleidiau gwleidyddol yn y DU yw:
- Y Blaid Wleidyddol (sy'n cael eu galw'n 'Torïaid' yn gyffredinol)
- Y Democratiaid Rhyddfrydol
- Y Blaid Lafur
Mae llywodraeth bresennol y DU yn glymblaid rhwng y Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Llywodraeth clymblaid ydy pan fydd dwy blaid yn dod at ei gilydd i ddal y mwyafrif o seddau etholedig. Er bod eu barn wleidyddol yn wahanol, maent yn cytuno i weithio gyda'i gilydd.
Dyma bleidiau gwleidyddol dylanwadol eraill:-
- Plaid Werdd Lloegr a Chymru
- Y Glymblaid Parch
- Plaid Genedlaethol yr Alban
- Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd
- Sinn Fein
- Plaid Cymru
- Plaid Sosialaidd Yr Alban
- Plaid Parch (Respect)
- Plaid Genedlaethol Prydain
- Plaid Annibyniaeth y DU (UKIP)
Tŷ’r Cyffredin
Tŷ’r Cyffredin yw’r lle mae’r ASau yma sydd wedi’u hethol yn cyfarfod i drafod a diwygio Mesurau (cynnig am gyfraith newydd neu newid un presennol) a materion cyfoes sy’n wynebu’r wlad.
- Mae Tŷ’r Cyffredin i fod i gadw llygad agos ar y Llywodraeth a holi Gweinidogion ynglŷn â’r gwaith y maen nhw’n ei wneud
- Bydd gweinidogion pwysig, gan gynnwys y Prif Weinidog, yn gwneud areithiau yn Nhŷ’r Cyffredin ynglŷn â materion cyfoes neu Fesur y maen nhw eisiau i’r Tŷ ei dderbyn, a gall ASau yn y Tŷ ddangos eu cefnogaeth neu eu gwrthwynebiad
- Mae’r DU wedi ei rhannu yn etholaethau seneddol, sy’n fras yn cynnwys poblogaeth gyfartal. Mae pob un o’r rhain yn pleidleisio i ethol Aelod Seneddol i mewn i Dŷ’r Cyffredin
Tŷ’r Arglwyddi
Tŷ’r Arglwyddi yw lle mae Arglwyddi’n cyfarfod i drafod a diwygio Mesurau a gyflwynwyd iddyn nhw gan Dŷ’r Cyffredin.
- Mae Mesurau yn cael eu cymeradwyo yn y Tŷ Cyffredin, yna yn cael ei basio i Dŷ'r Arglwyddi i gael ei archwilio
- Mae Tŷ'r Arglwyddi yn gallu atal Mesurau o ddod yn gyfraith, maent hefyd yn gallu oedi pethau rhag digwydd ac yn gallu gorfodi'r Tŷ Cyffredin i ailystyried
- Mae Arglwyddi yn naill ai'n etifeddu teitl Arglwydd neu yn cael eu penodi gan y Llywodraeth neu Gabinet yr Wrthblaid
Y Frenhines
- Os yw dau Dŷ'r Senedd yn cytuno ar eiriad terfynol y mesur yna mae'n cael ei yrru am Gydsyniad Brenhinol, pan fydd y Frenhines yn cymeradwyo'r mesurau ac maent yn dod yn gyfraith
- Yn dechnegol, mae gan y Frenhines lawer o rym mewn materion rhyngwladol, er mai’r Prif Weinidog a’r cabinet sy’n gwneud penderfyniadau yn gyffredinol
- Mae gan y Frenhines rym i gyhoeddi rhyfel, gwneud heddwch, cymryd neu ildio tiriogaeth, a chydnabod gwladwriaethau tramor
- Mae’r lluoedd arfog yn tyngu llw o deyrngarwch i’r Frenhines yn hytrach nag i’r llywodraeth