Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Diwylliant » Treftadaeth
Yn yr Adran Hon
Treftadaeth
Mae treftadaeth yn cwmpasu amrywiaeth eang o bethau sy’n diffinio gwlad neu ardal benodol o’r byd.
- Weithiau, pan fydd pobl yn cyfeirio at dreftadaeth, maent hefyd yn cyfeirio at hanes dy deulu. Efallai dy fod wedi clywed y term pethau 'etifeddol' sy'n golygu bod yn cael eu trosglwyddo i lawr o hynafiaid neu berthynas
- Mae treftadaeth yn gysylltiedig â gwlad neu ardal yn cynnwys diwylliant, adeiladau hanesyddol, nodweddion, iaith neu hyd yn oed syniadau neu hawliau, fel rhyddid neu gydraddoldeb o’r amseroedd a fu sy’n cael eu trosglwyddo i lawr trwy amser
- Mae treftadaeth yn rhan bwysig o hunaniaeth genedlaethol ac mae pob gwlad yn awyddus i gadw ei threftadaeth ei hun, boed hynny’n iaith Gymraeg, neu’n henebion fel y pyramidiau yn yr Aifft
- Mae gan Gymru dreftadaeth gref o gelfyddyd, cerddoriaeth a barddoniaeth, sy’n dyddio’n ôl miloedd o flynyddoedd. Mae’r dreftadaeth yma’n cael ei gweld heddiw yn nathliad yr Eisteddfod a gwyliau sy’n codi ymwybyddiaeth o Ddiwylliant Cymru