Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Diwylliant » Ieithoedd
Yn yr Adran Hon
Ieithoedd
Mae yna filoedd o ieithoedd yn y byd. Maen nhw’n amrywio o Tsieinëeg, sy’n cael ei siarad gan dros 1 biliwn o bobl yn y byd, i ieithoedd llwythau nad ydyn nhw ddim ond yn cael eu siarad gan nifer fechan o bobl.
- Mae ieithoedd yn diflannu pob dydd am lawer o resymau. Efallai nad yw pobl yn gallu cymryd rhan mewn busnes neu addysg os nad ydyn nhw’n siarad iaith benodol. Yng Nghymru yn y 19eg ganrif, cafodd plant ysgol eu gwahardd rhag siarad Cymraeg, a bu bron i’r iaith ddiflannu o ganlyniad i hyn
- Pan rwyt ti’n teithio, mae’n bwysig ceisio dysgu iaith frodorol gwlad. Bydd o gymorth pan fyddi di’n gwneud pethau ymarferol tra rwyt ti i ffwrdd, o archebu bwyd i helpu ti i gyfarfod â phobl newydd
- Saesneg, Sbaeneg, Tsieinëeg, Hindi ac Arabeg yw’r ieithoedd sy’n cael eu siarad fwyaf yn y byd
- Mewn llawer o wledydd, mae Saesneg yn cael ei siarad yn aml fel ail iaith, yn enwedig mewn gwledydd Ewropeaidd. Yn America, Sbaeneg yw’r ail iaith yn fwy cyffredinol
- Mae chwarter poblogaeth y byd yn siarad rhywfaint o Saesneg
Yr Iaith Gymraeg
- Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd cenedlaethol Cymru
- Mae dros un rhan o bump o boblogaeth Cymru’n gallu siarad Cymraeg, ac mae chwarter o’r boblogaeth yn gallu deall yr iaith
- Mae cynnydd mewn siaradwyr Cymraeg wedi bod yng Nghymru ers y 1990au, yn bennaf oherwydd bod yr iaith wedi cael ei gwneud yn orfodol mewn ysgolion
- Mae’r gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg ymhlith pobl rhwng 16 ac 19 mlwydd oed
- Mae rhai rhannau o Gymru lle mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf
Ieithoedd ac addysg
- Yn y Deyrnas Unedig, Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg ac Eidaleg yw’r ieithoedd tramor sy’n cael eu dysgu fwyaf
- Yng Nghymru, mae'r Gymraeg yn orfodol fel pwnc TGAU
- Nid yw ieithoedd tu allan i Ewrop, megis Tsieinëeg ac Arabeg, yn cael eu haddysgu yn gyffredinol mewn ysgolion cyfun Prydain. Fodd bynnag, gall llawer o wahanol ieithoedd cael eu hastudio o'r newydd ar lefel prifysgol