Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Diwylliant » Teuluoedd Brenhinol
Yn yr Adran Hon
Teuluoedd Brenhinol
Teulu estynedig rhywun sy’n teyrnasu - Brenin neu Frenhines, neu Ymerawdwr neu arweinydd llwyth - yw teulu brenhinol.
- Gelwir gwlad sydd â rhywun yn teyrnasu fel pennaeth yn frenhiniaeth neu’n deyrnas
- Mae brenhiniaeth yn etifeddol. Mae hyn yn golygu mai dim ond os oedd un o dy rieni yn frenhinol, neu os ydwyt yn priodi aelod o deulu brenhinol y gallet ti fod yn frenhinol. Weithiau mae yna gyfreithiau llym iawn ynglŷn â phwy sy’n gallu bod yn frenin neu’n frenhines. Yn Japan, dim ond plant gwrywaidd sy’n cael bod yn Ymerawdwr
Teulu Brenhinol Prydain
Teulu Brenhines Elizabeth II yw Teulu Brenhinol Prydain ar hyn o bryd. Windsor yw eu cyfenw nhw.
- Brenhiniaeth gyfansoddiadol yw math Prydain o lywodraeth, sy’n golygu mai’r Frenhines yw Pennaeth y Wlad, ond mae yna hefyd senedd sy’n llywodraethu’r wlad
- Y Frenhines yw Pennaeth y Lluoedd Arfog ac mae’n rhaid i filwyr dyngu llw o deyrngarwch iddi hi pan maen nhw’n ymuno â’r fyddin
- Fel Pennaeth Gwlad, gall y Frenhines gyhoeddi rhyfel, gwneud heddwch, cydnabod gwladwriaethau tramor neu gymryd neu ildio tiriogaeth ar ran y Deyrnas Unedig
- Mewn theori, y Frenhines yw’r pennaeth gwlad fwyaf grymus yn y byd - hi yw’r unig frenhines neu frenin yn y byd sy’n Bennaeth Gwlad ar fwy nag un genedl annibynnol, gyda thiriogaethau yn Ewrop, Gogledd a Chanolbarth America, y Caribî ac Ynysoedd y De
- Mae rhai pobl yn credu ei bod hi’n annheg i un teulu fod mewn grym oherwydd pwy ydyn nhw yn hytrach nag am eu cyflawniadau. Yn Ffrainc yn y 18fed ganrif, fe wnaeth pobl wrthryfela yn erbyn y teulu brenhinol, a chawsant nhw i gyd eu dienyddio. Cafodd teulu brenhinol yr Eidal eu halltudio yn ystod yr ail ryfel byd, a bu’n rhaid iddyn nhw ildio’u hawl i’r orsedd cyn iddyn nhw gael dychwelyd i’r Eidal
- Y gwledydd Ewropeaidd sy’n parhau i fod yn freniniaethau yw’r Deyrnas Unedig, Andorra, Gwlad Belg, Denmarc, Lwcsembwrg, Monaco, Liechtenstein, Yr Iseldiroedd, Norwy, Sbaen a Sweden