Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Diwylliant » Sipsiwn a Theithwyr
Yn yr Adran Hon
Sipsiwn a Theithwyr
Mae Sipsiwn neu Romani yn grŵp ethnig sy'n adnabyddus am eu ffordd o fyw crwydrol. Amcangyfrifir bod 300,000 o sipsiwn a theithwyr yn y DU. Maent wedi bod yn rhan o gymdeithas Prydain am dros 500 mlynedd ac mae ganddynt eu diwylliant arbennig eu hunain.>
Gyda'u hiaith eu hunain, eu credoau, traddodiadau mewn cerddoriaeth, adrodd straeon, barddoniaeth, celf a dylunio, a dawns mae hanes cyfoethog sy'n gysylltiedig â sipsiwn a theithwyr. Mae rhai cymunedau teithwyr yn defnyddio iaith o'r enw Shelta neu fel y'i gelwir weithiau yn Cant.
Cawsant eu galw'n aml yn 'Tinkers' oherwydd yn hanesyddol roedd llawer ohonynt yn Tinsmiths medrus, yn trwsio potiau a sosbenni metel pobl leol wrth iddynt symud o le i le.
Hawliau
- Mae gan deithwyr (neu sipsiwn) yr un hawliau â phawb arall. Gall Sipsiwn Romani cael ei olrhain yn ôl i is-gyfandir India, tra bod teithwyr yn bennaf o darddiad Gwyddelig a Saesneg. Mae'r ddau grŵp yn cael eu cydnabod yn gyfreithiol fel grwpiau ethnig o dan gyfraith Prydain
- Maen nhw'n dewis peidio â byw mewn tai 'confensiynol', ond mewn carafannau neu bebyll hyd yn oed
- Heddiw, mae tua 50% o Sipsiwn a theithwyr yn byw mewn carafannau. Maent hefyd yn byw mewn tai ond yn parhau â'u diwylliant
- Caiff teithiwr ei ddiffinio fel person digartref os nad oes le ganddynt adael ei garafán yn gyfreithiol neu os nad oes le ganddynt fyw, fel pabell
- Fel pawb arall, os oes gan deithiwr digartref angen blaenoriaethol (gweler yr adran Sut i Osgoi Digartrefedd am y meini prawf) ac nid yw'n ddigartref yn fwriadol, mae dyletswydd gyfreithiol gan yr awdurdod lleol i ddod o hyd i lety addas iddynt
- Os yw awdurdod lleol yn derbyn cais digartref gan deithiwr, rhaid iddynt asesu atgasedd y teithiwr tuag at dai confensiynol ac ystyried a allant wneud yn bosib iddynt fyw yn eu ffordd arferol trwy ddod o hyd i ddarn o dir iddynt. Dylai'r asesiad gynnwys ystyriaeth ddifrifol o'r holl dir sydd ar gael, nid tir y mae'r awdurdod lleol yn berchen arno yn unig
- Cofia, mae gen ti'r un hawliau â phawb arall felly ceisia gyngor arbenigwyr os oes problemau gen ti
Rhagfarn a Hiliaeth
- Mae'r arferion gwahanol o fewn eu diwylliant wedi golygu bod sipsiwn a theithwyr drwy gydol hanes wedi dioddef camwahaniaethu a rhagfarn ac mae hyn yn parhau hyd heddiw
- O ran iechyd ac addysg, maent yn un o'r grwpiau mwyaf difreintiedig ym Mhrydain
- Fel grŵp ethnig cydnabyddedig maent yn cael eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu gan y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (1976, fel y diwygiwyd yn 2000) a Deddf Hawliau Dynol (1998)