Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Diwylliant » Arferion



Arferion

Mae arferion yn ymddygiad hir sefydlog cymdeithas neu wlad.

  • Gall arferion cymdeithas benodol beri dryswch i’r rhai hynny sydd ag arferion gwahanol. Er enghraifft, ym Mwlgaria mae ysgwyd dy ben yn golygu ie ac mae nodio dy ben yn golygu na
  • Mae arferion yn cynnwys sut mae teuluoedd yn dathlu gwyliau, beth mae pobl yn ei fwyta, beth mae pobl yn ei wisgo, sut mae pobl yn cymdeithasu neu’n ymddwyn pan maen nhw yng nghwmni pobl eraill
  • Er enghraifft, mae arferion Prydeinig yn cynnwys: Ysgwyd llaw pan yr ydwyt yn cyfarch rhywun, bwyta gyda chyllell a fforc, prydlondeb - cyrraedd yn brydlon ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol neu gyfarfodydd, yfed mewn tafarn
  • Efallai bod eu hegluro fel hyn yn swnio’n ddigri, ond dychmyga petai rhywun yn ceisio ysgwyd llaw gyda thi a tithau erioed wedi gweld hyn yn cael ei wneud o’r blaen
  • Dylet ti hefyd fod yn ymwybodol o arferion gwlad arall pan yr ydwyt yn teithio dramor. Mewn llawer o wledydd lle ceir llawer o Fwslemiaid, byddai’n amhriodol iawn i ferch wisgo dillad sy’n dangos llawer o’i chorff
  • Y rhan fwyaf o’r amser, bydd pobl yn cydnabod nad ydwyt yn gwybod pethau oherwydd nad ydwyt o’u gwlad nhw, ond mae’n dangos cwrteisi i ddeall teimladau pobl eraill. Gall hefyd gadw trwbl draw, gyda phobl eraill neu hyd yn oed gyda’r gyfraith

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50