Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Digartrefedd » Sut i Osgoi Digartrefedd



Sut i osgoi digartrefedd

Os wyt ti’n meddwl y gelli ddod yn ddigartref, mae’n bwysig i ti weithredu’n syth. Gofynna am gyngor yn syth gan sefydliad a all gynnig cymorth, megis Shelter Cymru neu Gyngor ar Bopeth.

Os wyt yn 16-25 oed, mae nifer o bethau y gelli eu gwneud i osgoi bod yn ddigartref.

Y cam cyntaf yw cysylltu â dy awdurdod lleol. Yn dibynnu ar dy amgylchiadau personol, efallai bydd yr awdurdod lleol yn gallu canfod llety i ti.

Os ystyrir dy fod yn ‘flaenoriaeth angen', efallai bydd gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i ganfod cartref i ti. Rwyt yn ‘flaenoriaeth angen’ os wyt ti:

  • Yn feichiog
  • Â phlant dibynnol sy’n preswylio gyda thi
  • Yn 16 neu 17 mlwydd oed
  • Yn unigolyn dan 21 a fu’n derbyn gofal, yn byw mewn llety neu’n byw gyda gofalwyr maeth pan oeddet rhwng 16 a 18 oed, ond mae
  • hynny bellach wedi dod i ben
  • Yn berson dan 21 sy’n agored i niwed yn bod wedi derbyn gofal, byw mewn llety neu fyw gyda gofalwyr maeth
  • Yn ddigartref neu’n wynebu bygythiad o ddigartrefedd yn sgil argyfwng, megis llifogydd neu dân
  • Yn agored i niwed oherwydd afiechyd meddwl, anabledd corfforol neu reswm arbennig arall
  • Yn unigol sydd wedi gwasanaethu’n ffurfiol yn Lluoedd Arfog y Goron ac wedi bod yn ddigartref ers gadael y lluoedd hynny
  • Wedi bod dan gadwad
  • Yn agored i niwed yn sgil gadael llety oherwydd trais neu fygythiadau o drais gan rywun arall

Cofia, mae gan bob person ifanc hawl i gael cyngor ynghylch digartrefedd a thai, ond nid oes dyletswydd ar yr awdurdod lleol i ganfod llety i ti, onid wyt yn cael dy ystyried yn 'flaenoriaeth angen’, fel y disgrifir uchod

  • Os gelli, paid â dibynnu ar bobl eraill i ganfod llety i ti. Os gelli, cynllunia dy lety tymor hir cyn gadael cartref, i osgoi digartrefedd
  • Os na fydd gennyt unrhyw le i aros, hola hostelau brys, ond nid oes sicrwydd y bydd lle i ti. Os wyt yn fenyw sy’n dianc rhag trais yn y cartref, fel arfer, gelli gael lle mewn lloches i ferched, ond ffonia ymlaen llaw i sicrhau bydd llety diogel ar gael y noson dan sylw
  • Os wyt mewn perygl o fod yn ddigartref yn sgil cael dy droi allan, hola Cyngor ar Bopeth a alla gynnig cyngor ynghylch dy hawliau fel tenant

Os wyt yn ystyried gadael cartref oherwydd dadl neu chwalfa deuluol, pwylla i feddwl yn gyntaf. Bydd llawer o bobl ifanc sy’n gwneud hyn yn dod yn ddigartref. Darllena’n adran Gadael Cartref i gael cyngor ynghylch datrys problemau teuluol ac aros adref, neu ffonia Wasanaeth Cymodi Llamau os wyt yn bryderus ynghylch siarad â dy deulu dy hun

Gall bod yn ddigartref fod yn brofiad brawychus a pheryglus, felly ceisia osgoi hynny ar bob cyfrif, a chofia ofyn am gymorth os bydd angen arnat. Bydd rhywun ar gael bob amser i gynnig cyngor ynghylch beth i’w wneud nesaf.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50