Gwybodaeth » Tai » Digartrefedd » Cysgu Allan
Yn yr Adran Hon
Cysgu Allan
Cysgu allan (cysgu ar y stryd) yw'r dewis pan fetho popeth arall i bobl ddigartref. Mae’n beryglus ac annymunol iawn, a dylid ei osgoi os gellir gwneud hynny.
- Yn ogystal â bod heb unman i gysgu, gorffwys ac ymlacio, gall cysgu allan arwain at broblemau iechyd yn sgil bod yn wlyb neu’n oer yn barhaus, bod heb ddigon o fwyd a ddim yn cysgu digon
- Gall olygu dy fod mewn perygl o bobl eraill yn manteisio arnat, a gall llwgu, oerfel a diffyg cwsg amharu ar dy allu i wneud penderfyniad, ac yn fwy difrifol, gall olygu dy fod mewn perygl o gael ymosodiad arnat
- Weithiau, gall cyfnodau maith o gysgu allan arwain at broblemau alcohol a chamddefnyddio sylweddau, wrth i bobl eu defnyddio i gael rhyddhad o’r oerfel a theimlo’n llwglyd
Os wyt wedi rhoi cynnig ar bob dewis sydd ar gael ac os nad oes gennyt unrhyw ddewis arall, dylet geisio cadw mor ddiogel a chynnes ag y gelli.
Dyma ychydig o gynghorion ynghylch cadw’n ddiogel ac iach ar y strydoedd:
- Ceisia chwilio am rywle sy’n cynnig cysgod rhag y gwynt a’r glaw
- Defnyddia flanced neu sach cysgu i gadw’n ddiogel rhag yr oerfel a’r gwynt
- Paid â chysgu’n uniongyrchol ar y ddaear. Defnyddia gynfas neu flanced os gelli
- Ceisia aros mewn man lle bydd timau estyn allan yn ymweld ag o. Efallai gwnânt gynnig bwyd am ddim a dŵr a phlancedi. Gallant hefyd gynnig cyngor a mynd â thi i’r lloches agosaf os bydd lle ar gael
- Ceisia gysgu gyda grŵp o bobl i gadw'n fwy diogel, ond ceisia osgoi mannau cyhoeddus os gelli , i leihau peryglon gan aelodau'r cyhoedd, megis trais neu gamdriniaeth
- Os byddi’n canfod grŵp o bobl sy’n wynebu’r un amgylchiadau ac yn gallu cysgu fel grŵp, paid â theimlo dan bwysau i ymuno mewn unrhyw weithgarwch sy’n achosi pryder i ti. Os na fyddi'n teimlo'n ddiogel, paid ag aros gyda hwy
- Gall cael triniaeth feddygol fod yn anodd os byddi'n cysgu allan, ond serch hynny, bydd gen ti hawl i gofrestru â meddyg. Os byddi’n sâl, mae gan rai meddygfeydd ganolfannau galw heibio neu efallai bydd nyrs yn ymweld â chanolfan estyn allan lleol. Mewn argyfwng, ffonia 999 neu cer i uned damweiniau ac achosion brys yr ysbyty lleol
- Gall cadw unrhyw eiddo sydd gennyt mewn canolfan dydd lleol fod yn syniad da, os oes cyfleusterau ar gael. Mae hyn yn lleihau’r posibilrwydd o gael dy ladrata neu dy fygwth ar y stryd
- Chwilia am fanylion canolfannau estyn allan lleol, canolfannau dydd a gwasanaethau elusennol i bobl ddigartref. Y sefydliadau sy’n cynnig y cyfle gorau sydd gennyt i gael llety neu gael cyngor ynghylch sut i roi’r gorau i gysgu ar y stryd
- Os wyt yn ddigartref ac yn dymuno siarad â rhywun, mae digon o bobl y gelli siarad â hwy am ddim ac yn gyfrinachol, felly cysyllta â hwy cyn gynted ag y gelli