Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Digartrefedd » Bod yn Ddigartref



Bod yn Ddigartref

Gall bod yn ddigartref fod yn brofiad brawychus ac unig. Nid yw bod yn ddigartref yn golygu dy fod yn cysgu ar y strydoedd o reidrwydd, mae’n golygu nad oes gennyt gartref.

Er enghraifft, gellir ystyried dy fod yn ddigartref os byddi'n:

  • Cysgu yng nghartref teulu neu ffrindiau dros dro
  • Aros mewn llety gwely a brecwast dros dro
  • Byw mewn llety anaddas neu beryglus
  • Byw yn rhywle nad oes gennyt hawl cyfreithiol i aros yno (sgwatio)

Os wyt yn ddigartref, mae’n rhaid i ti gysylltu â dy awdurdod lleol i gael cymorth a chyngor cyn gynted ag y bo modd, a dylet gysylltu â Shelter Cymru i gael rhagor o gymorth.

  • Ceisia ganfod rhywle diogel i aros. Mae hostelau a llochesi ar gael ar gyfer pobl ddigartref, ond yn aml iawn, byddant yn brysur, felly paid â dibynnu arnynt
  • Efallai bydd ffrindiau neu deulu’n fodlon cynnig to dros dy ben, neu os galli fforddio hynny, gallet aros mewn llety gwely a brecwast. Paid â bod yn rhy falch i ofyn am gymorth. I gael rhagor o gyngor ynghylch canfod lle i aros, darllena ein hadran Sut i osgoi Digartrefedd
  • Mae cysgu allan yn beryglus iawn ac yn ddewis pan petho popeth arall. Darllena’r adran Cysgu Allan i gael cyngor ynghylch cadw’n ddiogel os byddi yn y sefyllfa honno

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50