Gwybodaeth » Tai » Digartrefedd
Yn yr Adran Hon
Digartrefedd
Mae digartrefedd yn golygu bod heb gartref rheolaidd, diogel, y galli deimlo’n ddiogel a chysurus ynddo. Gall olygu bod hed do dros dy ben a gorfod cysgu ar y stryd.
Gallu hefyd olygu nad oes gennyt unrhyw le i fynd iddo a dy fod yn aros gyda ffrindiau neu mewn llety dros dro megis gwesty gwely a brecwast. Felly, efallai bydd gen ti do dros dy ben ond byddi yn dal i fod yn ddigartref. Gelwir pobl sy’n wynebu’r amgylchiadau hun yn ‘bobl ddigartref gudd’.
Bydd pobl yn dod yn ddigartref oherwydd sawl rheswm. Gall ddigwydd oherwydd ffrae â dy deulu, methu aros yn dy dŷ yn sgil methu fforddio hynny, wedi gadael cartref oherwydd camdrin neu drais yn y cartref neu gael dy droi allan.
Beth bynnag yw’r rheswm, mae’n bwysig sylweddoli nad oes angen teimlo cywilydd yn sgil bod heb le parhaol i fyw ynddo, ac mae cymorth ar gael.
Gall nifer o sefydliadau dy gynorthwyo yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol i sicrhau y bydd gen ti rywel diogel i aros cyn gynted ag y bo modd.
Mae’r adran hon yn cynnig gwybodaeth ynghylch beth i’w wneud os doi di’n ddigartref a sut i atal digartrefedd.