Gwybodaeth » Tai » Dod o Hyd i Lety Rhent
Yn yr Adran Hon
Dod o Hyd i Lety Rhent
Llety wedi ei rentu yn breifat yw’r math mwyaf cyffredin o lety yr wyt ti'n byw ynddo pan fyddi di'n gadael cartref am y tro cyntaf. Mae llawer math gwahanol o dai yn cael eu rhentu yn breifat ar gael yn seiliedig ar dy anghenion e.e. llety neu gyfleusterau (fel cegin neu ystafell ymolchi) yn cael eu rhannu gyda phobl eraill. Gall safon y llety hefyd amrywio’n fawr.
Er y gall byw ar ben dy hun roi annibyniaeth i ti, mae rhai anfanteision hefyd. Gall y rhent fod yn uchel, mae angen talu’r arian ymlaen llaw (blaendal a rhent ymlaen llaw yn y rhan fwyaf o achosion), ac efallai y bydd landlordiaid yn amharod i osod eu heiddo i bobl ifanc a rhai sy’n hawlio budd-daliadau.
Cyn penderfynu symud allan bydd angen i ti feddwl yn ofalus am beth y gallet ti fforddio, y math o lety y mae arnat ei angen ac sydd ar gael i ti, sut beth fydd rhannu cartref gyda phobl eraill, talu pethau fel treth cyngor, y dreth dŵr a beth fydd angen i ti ofyn i’r landlord neu’r asiantaeth gosod tai.
Efallai bod posibilrwydd cael help i dalu’r rhent drwy hawlio budd-daliadau ond nid yw hyn bob amser yn talu’r rhent llawn ac efallai bydd newidiadau yn dod bydd yn newid pwy sy'n cael hawlio. I ddarganfod os wyt ti'n cael hawlio cer i gov.uk.
Gall unrhyw un dros 16 oed hefyd ymgeisio am lety a osodir gan Gynghorau a Chymdeithasau Tai. Mae’r rhain yn sefydliadau sy’n berchen ar eiddo ac sy’n cynnig llety ar rent rhad i bobl ar incwm isel.
Mae’r adran hon yn edrych ar ddod o hyd i lety ar rent a beth i feddwl amdano cyn i ti symud.