Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Prynu Cartref Newydd



Prynnu Cartref Newydd

Mae llawer o bobl yn y wlad hon yn prynu eu cartref eu hunain. Ond nid yw eiddo yn eiddo i ti hyd nes y mae’r benthyciad banc yr ydwyt wedi ei gymryd (y cyfeirir ato yn gyffredin fel morgais) wedi ei ad-dalu’n llawn. Weithiau gall hyn gymryd hyd at 30 mlynedd felly pan fo rhai pobl yn dweud “Rydw i wedi prynu tŷ’, yr hyn maen nhw’n ei olygu mewn gwirionedd yw ‘Rydw i yn prynu tŷ’! Os byddi di'n methu ad-dalu dy forgais ar amser, fe allet ti golli’r tŷ.

Efallai nad prynu dy lety dy hun yw’r dewis gorau o anghenraid i bawb oherwydd mae’n ddrud ac yn golygu ymrwymiad ariannol tymor hir.

Fel arfer mae angen swm sylweddol o arian hefyd fel blaendal i’w dalu ymlaen llaw. Oherwydd hyn, mae’n aml yn ddewis afrealistig ar gyfer y mwyafrif o bobl ifanc.

Ond mae’n bwysig darganfod beth a olyga prynu dy le dy hun oherwydd gallet ti ddewis gwneud hynny rhyw ddydd. Bydd yr adran hon yn rhoi’r holl wybodaeth y mae angen i ti ei wybod am dai.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50