Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Digartrefedd » Hosteli a Lletyau Cynaledig



Hostelau a Llety Cynaledig

Os wyt yn ddigartref, gall aros mewn hostel neu lety cynaledig fod yn ddewis i ti.

Hostelau a llochesi nos

  • Er bod hostelau a llochesi nod ar gael i bobl ddigartref, byddant yn llawn fel arfer, felly gall canfod gwely am y noson fod yn anodd
  • Cânt eu rhedeg fel arfer gan awdurdodau lleol, elusennau neu gymdeithasau tai. Ffonia Shelter Cymru am ddim i holi am hostel neu loches yn dy ymyl di
  • Nid yw Shelter Cymru yn rhedeg eu hostelau na’u llochesi nos eu hunain, ond gallant dy gynorthwyo i gysylltu â llefydd yn dy ardal
  • Mae gan rai hostelau neu llochesi restrau aros oherwydd mae’r galw mor uchel. Mae’n syniad da gofyn i sefydliad fel Shelter Cymru neu'r awdurdod lleol roi dy enw ar restr aros, i wella dy gyfle o gael lle
  • Bydd rhai yn derbyn pobl sy’n galw heibio, ond dim ond os bydd ganddynt lai i rywun ychwanegol, ac mae eraill yn cynnig cymorth i grwpiau penodol, megis pobl ifanc sengl, y sawl sydd â phroblemau cyffuriau ac alcohol, y sawl sydd â phroblemau iechyd meddwl â'r rhai mwyaf anghenus (wedi treulio’r cyfnod hiraf yn byw ar y stryd)
  • Mae llochesi nos am ddim fel arfer, ond bydd y rhan fwyaf o hostelau yn gofyn am daliad. Mae’r ddau’n cynnig bwyd, ond efallai bydd hostel yn codi tâl
  • Mae safonau llety yn amrywio, ond mae llochesi nos yn sylfaenol iawn fel arfer

Llety cynaledig

  • Mae cynllunio llety cynaledig yn cysylltu pobl y mae arnynt angen lle i aros â phobl sydd ag ystafell i’w rhentu
  • Cânt eu rhedeg fel arfer gan yr awdurdod lleol a gallant fod yn rhatach na hostel
  • Bydd rhai perchnogion tai hefyd yn cynnig prydau i ti fel rhan o dy rent, ac efallai byddi’n gallu defnyddio unrhyw fudd-daliadau rwyt yn eu hawlio i’w dalu
  • Mae llety cynaledig yn ddewis da cyn byddi’n barod i symud i mewn i dy le dy hun, ond bydd yr amser y gelli aros mewn llety cynaledig yn amrywio, ac yn dibynnu ar ba mor hir bydd yr ystafell ar gael, neu pa mor dda fydd dy berthynas â'r teulu
  • Bydd staff y cynllun llety cynaledig yn cadw cysylltiad â thi tra byddi’n aros yno i gynorthwyo i roi trefn ar dy fudd-daliadau neu ddatrys unrhyw broblemau, ac fe wnânt dy gynorthwyo i ganfod cartref parhaol
  • Nid oes gan bob awdurdod lleol gynlluniau llety cynaledig. Cysyllta â Shelter Cymru i gael manylion y cynllun llety cynaledig agosaf

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50