Gwybodaeth » Tai » Digartrefedd » Rhedeg i Ffwrdd
Yn yr Adran Hon
Rhedeg i Ffwrdd
Pan fydd pethau'n dod yn ddrwg iawn adref, gallai deimlo fel mai'r unig ateb ydy rhedeg i ffwrdd. Mae tua 100,000 o bobl ifanc dan 16 oed yn rhedeg i ffwrdd o'u cartref bob blwyddyn yn y DU. Mae tua 1 ymhob 6 o'r bobl ifanc yma yn dod yn ddigartref ac yn cysgu ar y strydoedd. Mae un ymhob wyth ohonynt wedi cael ei niweidio'n gorfforol ac un ymhob naw wedi cael ei gam-drin yn rhywiol tra i ffwrdd o gartref.
Efallai nad rhedeg i ffwrdd yw'r ateb i dy broblemau gartref felly, oni bai dy fod di mewn perygl, y peth olaf y dylet ti ei ystyried yw rhedeg i ffwrdd.
- Cyn i ti wneud unrhyw benderfyniad, mae'n bwysig iawn siarad â rhywun ynglŷn â dy opsiynau. Gall gael sgwrs am ddim a chwbl gyfrinachol gyda Meic, Childline, Shelter Cymru, Llinell Amddiffyn Plant yr NSPCC neu'r Llinell Gymorth Genedlaethol Pobl Goll sydd wedi Rhedeg i Ffwrdd (National Missing Persons Runaway Helpline). Gallant roi cymorth a chyngor beth bynnag wyt ti am ei wneud - a does dim rhaid i ti ddweud dy enw
- Cofia, os wyt ti am adael dy gartref, sicrha fod gen ti rywle i fynd yn gyntaf. Mae'n anodd iawn dod o hyd i lety felly paid â meddwl bod darganfod lle diogel i aros yn hawdd
- Ceisia tŷ ffrind neu aelod o'r teulu i gychwyn os wyt ti'n teimlo nad oes posib aros gartref mwyach
- Nid oes posib cael tenantiaeth nes wyt ti'n 18 oed, ond os wyt ti'n 16 neu'n 17 oed, mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar yr awdurdod lleol i ddod o hyd i lety ar dy gyfer
- Os wyt ti'n cael problemau gyda dy deulu, ond yn ei chael yn anodd siarad â nhw, ceisia gymorth gwasanaeth cyfryngu (mediation) cyn dewis rhedeg i ffwrdd. Mae Gwasanaeth Cyfryngu Llamau yn gweithio gyda phobl ifanc yng Nghymru a'u teuluoedd i helpu nhw i ddatrys eu problemau ac aros neu ddychwelyd adref
- Os wyt ti'n meddwl am redeg i ffwrdd oherwydd trais yn y cartref neu gamdriniaeth yna gwna'n siŵr dy fod di'n chwilio am help a chefnogaeth. Nid oes neb yn disgwyl i ti fyw gyda thrais ond paid rhoi dy hun mewn perygl pellach. Galwa Childline neu Linell Amddiffyn Plant yr NSPCC am gyngor a help neu edrycha ar yr adran Trais yn y Cartref (link to 2a7 Domestic Violence in Welsh) am wybodaeth bellach. Mae yna lefydd diogel i fynd iddo, fel tŷ noddfa, felly paid bod yn unig a chwilia am help
- Os wyt ti'n teimlo nad yw'n bosib aros adref, sicrha bod gen ti rywle diogel i fynd bob tro. Gweler adran Sut i Osgoi Digartrefedd (link to 5b2 How To Avoid Homelessness in Welsh) cyn gwneud unrhyw beth a siarada gyda rhywun am sut wyt ti'n teimlo gyntaf
- Mae bod yn ddigartref yn frawychus, yn oer ac yn unig felly ystyried dy benderfyniad i redeg i ffwrdd a chael help a'r cyngor cywir yn gyntaf
Wedi rhedeg i ffwrdd yn barod?
Os wyt ti wedi rhedeg i ffwrdd yn barod ac angen help a chefnogaeth, mae yna bobl fedri di siarad â nhw. Cysyllta gydag unrhyw un o'r sefydliadau ar y tudalen hwn cyn gynted â phosib er mwyn cael cyngor am beth i'w wneud nesaf. Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau yn rhad ac am ddim ac nid oes rhaid rhoi dy enw os nad wyt ti eisiau.
Os wyt ti wedi rhedeg i ffwrdd, mae sawl ffordd o roi gwybod i bobl dy fod di'n ddiogel a'r rhesymau pam dy fod di wedi gadael heb orfod gweld nhw wyneb yn wyneb trwy ddefnyddio'r Llinell Gymorth Neges Adref Unigolion Coll (Missing Persons Message Home Helpline).
Cofia, os wyt ti'n 16 neu'n 17 oed, mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar yr awdurdod lleol i ddarganfod rhywle i ti aros felly paid aros ar y stryd, cysyllta gyda nhw a chael to uwch dy ben.