Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Byw yn dy Gartref Newydd a'i Gynnal » Cymdogaethau a'r Gymuned



Cymdogaethau A'r Gymuned

Pan fyddi di'n symud mewn i dŷ newydd, efallai y byddi di'n symud i gymdogaeth newydd hefyd.

Mae'n bosib y byddet yn teimlo'n ddigalon i ddechrau oherwydd efallai na fyddi di'n adnabod unrhyw un neu'n gwybod lle mae popeth wedi'u lleoli.

  • Ffordd dda o ddod i adnabod dy gymdogaeth yw dod i adnabod dy gymdogion. Mae cyflwyno dy hunan yn ffordd dda o wneud ffrindiau ac fel arfer byddant yn hapus i roi rhagor o wybodaeth i ti am yr ardal, fel lle mae'r siop agosaf ac ar ba ddiwrnod y caiff y biniau eu casglu
  • Os ydwyt am gymryd rhan yn y gymuned leol, dylet ddarganfod beth sy'n digwydd yn yr ardal. Gallet ti edrych mewn ffenestri siopau lleol, y llyfrgell neu'r ganolfan gymunedol leol am hysbysebion digwyddiadau yn dy ardal. Efallai y byddi di am ymuno â dosbarth ymarfer corff, grŵp cymdeithasol, grŵp mamau a phlant bach, grŵp eglwys neu hyd yn oed glwb llyfrau. Mae hon yn ffordd dda o wneud ffrindiau a dysgu rhagor am y gymuned yr ydwyt yn byw ynddi
  • Mae Cynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth ('Neighbourhood Watch') hefyd yn ffordd dda o gyflwyno dy hunan i dy gymuned a sicrhau bod rhywun yn cadw llygad arnat ti a dy gartref
  • Bydd dy gymdogion yn rhan fawr o dy fywyd yn y gymuned felly mae'n bwysig cyd-dynnu â nhw. Cofia barchu dy gymdogion a cheisia peidio â bod yn swnllyd nac aflonyddgar
  • Os ydy dy gymdogion yn swnllyd, ceisia drafod hynny gyda nhw mewn ffordd barchus. Fel arfer dyw pobl ddim yn sylweddoli faint o sŵn maen nhw'n ei greu a byddan nhw'n stopio pan fydd rhywun yn gofyn iddyn nhw wneud hynny. Os yw'r broblem yn parhau, cadwa gofnod o'r sŵn ac o sut y mae'n effeithio arnat ti a cheisia ysgrifennu at dy gymydog yn esbonio dy bryderon. Os na fydd gwelliant, cysyllta ag Asiantaeth Iechyd yr Amgylchedd am gyngor. Bydd y rhif ffôn gan dy gyngor lleol
  • Os ydwyt ti neu dy gymydog yn denant, cysyllta â'r landlord i gwyno

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50