Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Byw yn dy Gartref Newydd a'i Gynnal » Cynnal a Chadw Arferol a DIY



Cynnal a Chadw Arferol a DIY

Mae angen gofal a sylw parhaol ar dy dŷ er mwyn ei gadw'n lân, taclus a diogel.

P'un ai dy fod yn berchen ar dy dŷ neu'n ei rentu, ti sy'n gyfrifol am ei gynnal. Yn wir, os yw dy landlord yn credu nad ydwyt yn cadw'r tŷ'n iawn, gall ofyn i ti adael dy denantiaeth.

Fel canllaw, dyma rai awgrymiadau o'r pethau y dylet ti wneud yn dy gartref.

Bob dydd, dylet:

  • Olchi platiau, llestri a phadelli budr, a'u cadw
  • Cadw dy gegin a'r man bwyta'n lân a thaclus, ac wedi'u diheintio
  • Hongian dy ddillad a thacluso wrth i ti fynd yn dy flaen

Bob wythnos, dylet:

  • Sugno llwch o'r carpedi neu olchi lloriau teils
  • Glanhau a diheintio toiledau a golchi basnau ymolchi
  • Glanhau cawodydd neu faddonau
  • Golchi dy dduvet a dy gasys gobennydd
  • Tynnu llwch o arwynebeddau neu'u glanhau

Peidia â gadael i ddyletswyddau'r tŷ gynyddu. Dylet lanhau a thacluso wrth i ti fynd yn dy flaen er mwyn cadw dy dŷ mewn cyflwr da.

  • Os ydwyt yn byw gyda phobl eraill, llunia amserlen glanhau fel y bydd y dyletswyddau wedi'u rhannu rhwng pawb ac nid yw unrhyw beth yn cael ei anghofio
  • Cofia os ydwyt yn berchen ar anifail anwes, rhaid ystyried y glanhau a chynhaliaeth ychwanegol sy'n gysylltiedig â hyn a bod yn barod i ymdrin â rhagor o wallt a rhai damweiniau
  • Paid ag anghofio am y tu allan i dy gartref. Mae angen yr un faint o ofal ar erddi ag sydd ei angen ar dai, felly cadwa’r ardd yn dwt a thaclus a heb sbwriel ynddi

DIY

Mae DIY ('Do It Yourself') bellach yn boblogaidd iawn. Gall talu am berson proffesiynol i wneud tasgau yn y tŷ fod yn ddrud felly mae llawer o bobl yn dewis gwneud y tasgau eu hunain.

  • Gall DIY gynnwys unrhyw beth o godi silff neu addurno ystafell i blymio, ond gwna'n siŵr dy fod yn gwybod yn union beth yr ydwyt yn ei wneud cyn cychwyn. Gall gwaith DIY gwael fod yn beryglus a drud. Bob blwyddyn mae tua 70 o bobl yn marw o ganlyniad i ddamweiniau DIY ac mae mwy na 100,000 yn cael eu hanafu'n ddifrifol
  • Ni waeth pa mor fach yw'r dasg, bydda'n ofalus a sicrha dy fod yn ddiogel a dy fod yn gwneud y dasg yn gywir
  • Os nad ydwyt yn siŵr, ceisia gyngor person proffesiynol. Paid â chychwyn tasg os nad ydwyt yn hollol sicr o'r hyn yr ydwyt yn ei wneud

Dyma rai awgrymiadau ar DIY:

  • Gwisga ddillad amddiffynnol fel gogls, menig neu fwgwd llwch wrth wneud tasgau fel paentio, llifo neu waith gyda gwydr
  • Wrth ddefnyddio cynnyrch sy'n cynhyrchu mygdarth neu lwch, gwna'n siŵr fod digon o wynt yn dod mewn i'r ystafell a pheidia byth ag ysmygu yn yr ardal
  • Gwna'n siŵr dy fod yn defnyddio'r offer cywir bob amser. Paid â defnyddio offer anaddas. Trwy ddefnyddio'r offer cywir bydd y dasg yn cael ei chyflawni'n fwy effeithiol ac yn ddiogel
  • Wrth ddefnyddio ysgol, sicrha dy fod yn sefydlog a gofynna i rywun i'w chadw'n wastad pan ydwyt yn ei defnyddio, os yn bosib
  • Wrth ddefnyddio siswrn neu gyllyll, torra i ffwrdd o dy gorff
  • Os ydwyt yn trwsio teclyn trydanol, diffodda ef cyn i ti gychwyn a chymera'r plwg neu'r ffiws allan. Mae hi hefyd o fudd gwisgo esgidiau â gwadn rwber rhag ofn y cei di sioc drydan
  • Dysga'r hyn y dylet ei wneud mewn argyfwng. Cadwa ddiffoddwr tân yn y tŷ a pheidia byth â rhoi dŵr ar dân trydanol
  • Dylai person proffesiynol cofrestredig wneud tasgau sy'n ymwneud â nwy neu drydan
  • Wrth ddrilio neu roi hoelion mewn wal, gwna'n siŵr nad oes pibellau dŵr neu wifrau y gallet ti dorri yn y wal honno
  • Cynllunia'r dasg yn ofalus cyn dechrau arno. Bydd hyn yn sicrhau na fyddi di'n brysio'r gwaith; gall hynny achosi damweiniau
  • Os ydwyt yn denant, dylet holi dy landlord cyn cychwyn ar unrhyw waith DIY. Efallai y bydd dy gontract yn dweud nad oes hawl gennyt newid unrhyw beth yn y tŷ. Os oes problem gennyt sydd angen ei thrwsio, siarada â dy landlord yn gyntaf
  • Gall DIY fod yn beryglus ac achosir sawl damwain pan aiff tasgau DIY yn anghywir, felly gwna'n siŵr dy fod yn derbyn y cyngor cywir cyn cychwyn ar dasg

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50