Gwybodaeth » Tai » Byw yn dy Gartref Newydd a'i Gynnal » Biliau
Yn yr Adran Hon
Biliau
Mae symud mewn i dŷ newydd yn ymrwymiad ariannol mawr. Yn ogystal â thalu dy rent neu dy forgais, rhaid i ti ystyried y biliau y mae'n rhaid i ti eu talu - a chynllunio amdanyn nhw.
P'un ai dy fod yn rhentu neu'n berchen ar dŷ dy hun, bydd rhaid i ti dalu biliau am:
- Nwy
- Trydan
- Dŵr
- Treth cyngor
- Biliau ffôn neu ryngrwyd
- Trwydded deledu
- Mae'n werth gofyn i gyflenwyr am amcangyfrif o dy fil misol, chwarterol neu flynyddol (yn dibynnu ar sut yr ydwyt yn talu) fel y gallet ti gynnwys hwn yn dy gyllideb
- Mae'n werth ystyried debydau uniongyrchol misol neu archebion sefydlog i dalu dy filiau. Byddi di'n gwybod faint yn union o arian y bydd gennyt bob mis ac nid ydwyt yn derbyn unrhyw beth annisgwyl cas gyda biliau chwarterol yn cyrraedd bob tri mis
- Os ydwyt yn byw gyda rhywun, sicrha fod pob un o'r enwau ar y biliau. Bydd hyn yn golygu eich bod i gyd yn gyfrifol am eu talu nhw
- Gan ddibynnu ar dy amgylchiadau, mae'n bosib y bydd rhaid i ti dalu treth cyngor. Mae'r swm y bydd rhaid i ti ei dalu yn dibynnu ar ble ti'n byw a faint o gyflog ti'n ei dderbyn
- Mae hwn fel arfer yn gost fisol felly darganfydda'r gost ymlaen llaw
- Os oes gennyt linell ffôn, y rhyngrwyd neu deledu, bydd biliau ychwanegol i'w talu. Gellir talu am linell ffôn a'r rhyngrwyd gyda'i gilydd am un swm misol neu dalu amdanynt yn unigol wrth i ti eu defnyddio
- Os ydwyt yn berchen ar deledu, rhaid i ti brynu trwydded deledu. Gallet ti gael ffurflen gais o Swyddfa'r Post. Gellir talu swm untro neu wneud taliadau llai dros y flwyddyn, ond os nag oes trwydded gennyt ti, mae'n bosib y bydd rhaid i ti dalu dirwy fawr
- Fodd bynnag, os nad ydwyt yn berchen ar deledu a dim ond yn gwylio'r teledu dal i fyny ar dy gyfrifiadur neu liniadur yna nid oes angen un arnat. Mae angen i ti roi gwybod iddynt am dy sefyllfa, y gall ei wneud naill ai drwy'r post neu drwy lenwi dy fanylion ar-lein
- Sicrha fod dy ddrysau a dy ffenestri wedi'u selio'n iawn i atal drafftiau a pheidio â gwastraffu gwres
- Cer yn y gawod yn hytrach na'r bath i arbed dŵr
- Diffodda'r golau wrth i ti adael ystafell
- Caea'r llenni yn y cyfnos i gadw gwres yn yr ystafell
- Sicrha fod y tapiau wedi'u cau yn gywir. Gall tapiau sy'n diferu codi'r bil dŵr llawer
- Diffodda'r tap wrth frwsio dy ddannedd
- Peidia â chadw offer trydanol mewn 'modd segur' ('stand-by') pan nad ydynt yn cael eu defnyddio
- Defnyddia fylbiau arbed ynni yn hytrach na fylbiau arferol
- Peidia â llenwi dy degell bob tro yr ydwyt am wneud paned o de. Rho'r dŵr sydd ei angen arnat ynddo yn unig
- Dadrewa dy oergell yn gyson fel y bydd yn gweithio'n fwy effeithiol ac yn rhatach
- Newidia i gyflenwr nwy neu drydan rhatach
Mae'n bosib y bydd rhaid i ti dalu:
Pan fyddi di'n symud mewn, mae'n bwysig nodi'r mesuryddion nwy a thrydan a chysylltu â dy holl gyflenwyr pŵer i roi gwybod iddynt dy fod wedi symud mewn a rhoi dy fanylion iddynt. Bydd hyn yn sicrhau na fyddi di'n derbyn biliau pobl eraill.
Lleihau dy filiau ynni
Os creda di fod dy filiau ynni (nwy, trydan a dŵr) yn rhy ddrud, mae modd lleihau dy filiau trwy arbed ynni:
Bydd yr uchod nid yn unig yn arbed arian, ond yn helpu i arbed yr amgylchedd
Wrth ddewis neu newid cyflenwyr egni neu wasanaethau, ymchwilia i bob cwmni i gael y fargen orau, ond bydda'n sicr o' r manylion cyn llofnodi unrhyw beth!
Os ydwyt yn ei chael hi'n anodd talu biliau, paid â phryderu. Cymera gyngor o'n hadran Dyled.