Gwybodaeth » Tai » Byw yn dy Gartref Newydd a'i Gynnal » Diogelwch
Yn yr Adran Hon
Diogelwch
P'un ai dy fod yn byw ar dy ben dy hun neu gyda phobl eraill, rhaid cadw dy dŷ'n ddiogel er mwyn amddiffyn ti dy hunan a dy eiddo.
Dyma rai awgrymiadau ar gadw'n ddiogel yn dy gartref:
- Rho dwll sbïo yn y drws ffrynt. Mae'n hawdd torri cadwyni diogelwch. Defnyddia'r twll sbïo bob tro cyn ateb y drws. Bydda'n wyliadwrus o alwadau ffug a gofynna i weld cerdyn adnabod cyn agor y drws
- Sicrha fod cloeon da a chryf ar bob drws a ffenest
- Peidia byth â gadael y tŷ heb gloi pob drws a ffenestr yn dynn, hyd yn oed os ydwyt yn gadael y tŷ am ychydig o funudau yn unig
- Paid â gadael pethau gwerthfawr, fel setiau teledu, cyfrifiaduron neu chwaraewyr DVD rhywle y gall lladron eu gweld trwy ffenest neu ddrws
- Peidia byth â gadael allweddi yn y clo. Hyd yn oed pan fyddi di yn dy gartref, rho'r allweddi lle na ellir eu cyrraedd o'r drws neu'r ffenest ac wedi'u cuddio
- Defnyddia marciwr diogelwch anweladwy i ysgrifennu dy god post ar eitemau gwerthfawr fel beiciau. Bydd gwneud hyn yn helpu'r heddlu eu hadnabod pe byddent yn cael eu dwyn
- Cadwa'r goleuadau ymlaen pan fyddi di'n gadael y tŷ. Mae hyn yn creu argraff bod rhywun yn y tŷ
- Gosoda larwm diogelwch os alli di ei fforddio
- Cadwa giatiau'r ardd, drws y garej a'r sied dan glo drwy'r amser
- Dychmyga dy fod yn lleidr yn chwilio am ffyrdd i mewn i dy dŷ a cheisia leihau'r siawns y bydd unrhyw un yn gallu torri mewn - trimia canghennau sy'n agos at y ffenestri neu rho ddelltwaith (trellis) ar dy ffensys fel na all unrhyw un gerdded arnynt
- Paid byth â gadael allweddi sbâr dan botiau, matiau neu ar ben ffrâm y drws. Mae lladron yn gwybod bod pobl yn gwneud hyn hefyd!
- Os ydwyt yn mynd i ffwrdd am gyfnod hir, cansla'r llaeth a'r papurau newydd a threfna fod dy gymydog yn casglu dy bost fel na fydd yn pentyrru. Peidia â gadael i dy dŷ edrych yn ddiffaith
- Ymuna â Chynllun Gwarchod y Gymdogaeth ('Neighbourhood Watch') a chadwa olwg ar dai eraill yn dy stryd a noda unrhyw ddigwyddiadau afreolaidd
Os ydwyt erioed yn teimlo'n anniogel yn dy gartref, ffonia cymydog neu ffrind sy'n byw'n agos a gofynna a alli di aros gyda nhw. Os ydwyt yn teimlo dy fod mewn perygl mawr, ffonia 999.