Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Byw yn dy Gartref Newydd a'i Gynnal » Yswiriant Adeilad a Chynnwys



Yswiriant Adeilad a Chynnwys

Pan fyddi di'n symud mewn i dy gartref newydd, rhaid i ti gael yswiriant i ddiogelu ti dy hunan a dy eiddo.

Mae cost yswiriant yn dibynnu ar ba fath o dŷ sydd gennyt a'i faint, ac ar le yr ydwyt yn byw. Os oes cyfradd trosedd uchel yn dy ardal, gallet ddisgwyl i bremiwm dy yswiriant fod yn uwch.

Mae'n bosib y bydd modd i ti leihau cost dy yswiriant os oes cofnod 'dim hawliadau' ('no claims') gennyt, larwm diogelwch neu ddyfais ddiogelwch sydd wedi'i gosod yn gywir, neu os ydwyt yn aelod o Gynllun Gwarchod y Gymdogaeth ('Neighbourhood Watch'). Mae'r rhain yn lleihau'r risg y bydd angen i ti hawlio ar dy bolisi yswiriant.

Mae dau brif fath o yswiriant: yswiriant adeilad ac yswiriant cynnwys

Yswiriant Adeilad

  • Os oes gennyt forgais am dy gartref, mae'r math hwn o yswiriant yn orfodol. Os ydwyt yn rhentu, mae'n rhaid bod yswiriant adeilad gan dy landlord
  • Mae'r math hwn o yswiriant yn diogelu strwythur dy dŷ - gan gynnwys darnau gosod a gosodiadau - rhag difrod o ganlyniad i dân, llif dŵr, storm ac ymsuddiant (pan all dy gartref gael ei effeithio gan y tir y mae wedi'i adeiladu arno)
  • Dylai'r swm mwyaf y bydd dy yswiriwr yn ei dalu (y swm sicr) fod yn ddigon i dalu cost ail-adeiladu dy gartref
  • Gall rhai polisïau gynnwys difrod damweiniol, ond bydda'n barod i dalu rhagor am hwn

Yswiriant Cynnwys

  • Mae hwn yn diogelu dy ddodrefn a'r eiddo yn dy gartref rhag lladrad, colled neu ddifrod. Awgrymir yn gryf i ti gael yswiriant cynnwys p'un ai dy fod yn berchen ar dy dŷ neu'n rhentu, ond nid yw hwn yn ofynnol
  • Bydd y rhan fwyaf o bolisïau'n talu'r gost lawn o brynu dodrefn neu eiddo newydd
  • Gall rhai polisïau ddiogelu rhag difrod damweiniol, gan gynnwys colled neu ddifrod i eitemau gwerthfawr fel gemwaith y tu mewn a'r tu allan i dy gartref. Bydda'n barod i dalu mwy am hwn
  • Darllena'r polisi'n ofalus oherwydd efallai y bydd rhai amgylchiadau lle na fydd yswiriant yn dy ddiogelu
  • Wrth wneud cais am yswiriant cynnwys bydd gofyn i ti ddarparu crynodeb o'r prif eitemau yn dy gartref y mae'n werth chweil eu hyswirio. Efallai bydd rhaid i ti yswirio eitemau drud, fel beic neu oriawr, ar wahân
  • Awgrymir bod gennyt dystiolaeth o dy eiddo sydd wedi'i yswirio. Gallet ti wneud hyn trwy gymryd llun neu ffilmio'r eitemau fel cofnod o dy eiddo
  • Ni chyfrifir gwerth sentimental. Caiff gwerth dy eitemau ei gyfrifo yn ôl eu gwerth ariannol
  • Cofia adnewyddu dy yswiriant cynnwys bob blwyddyn. Cadwa gofnod o'r eiddo yr ydwyt am ei yswirio er mwyn ei ychwanegu at dy bolisi newydd a rho lun go iawn o dy eiddo bob amser
  • Gall y rhan fwyaf o yswiriant cynnwys cael ei dalu'n fisol trwy ddebyd uniongyrchol fel y gallet ti ledaenu'r gost dros y flwyddyn
  • Bydd polisïau a phremiymau yn amrywio o un cwmni i'r llall felly pora bob un ohonynt er mwyn cael y fargen orau a sicrha dy fod yn deall pob manylyn yn dy bolisi, fel na fyddet yn cael dy siomi'n annisgwyl pan fydd rhaid i ti hawlio ar dy bolisi

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50