Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Mewnfudo a Cheisio Lloches » Tai



Tai

Mae yna wahanol hawliau i fewnfudwyr, ymwelwyr a cheiswyr lloches pan ddaw at dai tra yn y DU a Chymru.

Dinasyddion Ewropeaidd

  • Mae dinasyddion Ewropeaidd sy'n byw yn y DU efo'r un hawliau â phobl wedi'u geni yn y wlad ac yn gallu cael mynediad i gymorth budd-daliadau tai os yn ddi-waith, yn chwilio am waith neu'n astudio

Ymwelwyr

  • Dydy'r mwyafrif o fisas ddim yn caniatáu i ymwelwyr a mewnfudwyr i hawlio budd-daliadau, credydau treth neu gymorth tai sydd yn cael ei dalu gan y wladwriaeth
  • Mae disgwyl iddynt drefnu llety eu hunain tra yn y DU am hyd y fisa

Ceiswyr Lloches

Mae ceiswyr lloches yn arbennig o fregus i ddigartrefedd gan y gallent gael anawsterau heb hawliau i lety rhent preifat, budd-daliadau na chyflogaeth tra bydd y cais yn cael ei ystyried.

Os yw ceisiwr lloches yn cael caniatâd i aros yn y DU yn ystod cyfnod y cais, mae'r opsiynau llety yn cynnwys:

  • Aros gyda ffrindiau neu berthnasoedd
  • Cael eu dal mewn canolfan breswyl
  • Asiantaeth Ffiniau'r DU yn darparu llety

Cael llety gan Asiantaeth Ffiniau'r DU

  • Os nad oes gan geisiwr lloches unlle i aros a ddim ffordd o dalu i aros yn rhywle, byddant fel arfer yn derbyn llety argyfwng tra bydd y cais yn cael ei brosesu
  • Nid yw ceiswyr lloches yn cael dewis ble i fyw os ydynt angen i'r wladwriaeth ddarparu llety ond bydd trafnidiaeth yn cael ei ddarparu i gyrraedd yno
  • Os yw llety yn cael ei gynnig bydd hyn yn cael ei gynnwys yn y Cytundeb Cefnogaeth Lloches
  • Os yw amodau'r cytundeb yn cael eu torri, fel peidio cadw cysylltiad efo'r perchennog achos neu beidio hysbysu unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau yna bydd y gefnogaeth yn cael ei stopio ac efallai byddant yn eu caethiwo mewn canolfan lety diogel

Ffoaduriaid

  • Mae ceiswyr lloches sydd wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais i Asiantaeth Ffiniau'r DU ac wedi derbyn statws ffoadur efo'r un hawl i dai â dinasyddion y DU
  • Os wyt ti'n derbyn cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith, mae hawl gen ti i gael budd-dal tai i helpu tuag at gostau byw
  • Gall ffoaduriaid hefyd wneud cais am fudd-dal tai os ydynt ar incwm isel trwy'r Ganolfan Byd Gwaith

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50