Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Mewnfudo a Cheisio Lloches » Gwaith



Gwaith

Yn 2011, roedd yna 6 miliwn o bobl o oedran gweithio nad oedd wedi'u geni yn y wlad yma, sy'n 14.4% o'r cyfanswm o bobl sy'n gyflogedig yn y DU.

Mae mewnfudwyr yn gwneud cyfraniad mawr at y DU trwy’r gwaith maen nhw’n ei wneud, er enghraifft, mae mwy na 1,000 o ffoaduriaid sydd wedi cael hyfforddiant meddygol wedi’u cofnodi ar gronfa ddata Cymdeithas Feddygol Prydain, ac mae gan lawer o ffoaduriaid gymwysterau academaidd neu gymwysterau addysgu.

Dinasyddion Ewropeaidd

  • Tra yn y DU, nid oes rhaid i Ddinasyddion Ewropeaidd weithio os ydynt yn gallu cefnogi eu hunain neu eu teuluoedd heb ddod yn faich afresymol ar gyllid cyhoeddus
  • Yn y bôn, golygai hyn bod rhaid i Ddinasyddion Ewropeaidd ddod i mewn i'r wlad efo'r bwriad o ddod yn rhan o'r economi cyflogaeth drwy gael swydd, dod yn hunangyflogedig neu sefydlu cwmni
  • Yn y mwyafrif o achosion nid oes rhaid cael trwydded gwaith i ddod i'r DU heblaw am ddinasyddion Bwlgaria a Rwmania sydd yn gorfod cael caniatâd i weithio yn y DU

Ymwelwyr

  • Os yw person o wlad sydd ddim yn yr Undeb Ewropeaidd neu Ardal Economaidd Ewrop (AEE) yn bwriadu aros yn y DU neu Gymru am hyd at chwe mis, yna efallai bydd angen trwydded gwaith arnynt i gael swydd

Trwyddedau Gwaith

  • Er mwyn gweithio yn y DU mae angen trwydded waith, sy'n aml yn anodd i fewnfudwr ei gael
  • Mae yna system wedi'i selio ar bwyntiau ar gyfer fisas gwaith mewnfudwyr yn ddibynnol ar briodoleddau a sgiliau
  • Mae pwyntiau penodol yn cael ei wobrwyo wedi'i selio ar oed, sefyllfa ariannol, addysg, cymwysterau a gallu iaith Saesneg
  • Fel arfer mae’n haws i fewnfudwr uchel ei sgiliau gael trwydded gwaith na mewnfudwr sydd â llai o sgiliau
  • Mae mwy o wybodaeth ar y system seiliedig ar bwyntiau ar gyfer fisas gwaith ar gael ar ukba.homeoffice.gov.uk

Ceiswyr Lloches

  • Ni all ceiswyr lloches weithio tra bod eu cais yn cael ei brosesu
  • Mae rhai rhaglenni mewn rhai rhannau o’r DU sy’n cynnig cyfleoedd i geiswyr lloches gymryd rhan mewn gwirfoddoli ar gyfer gweithgareddau cymunedol neu ddysgu Saesneg a sgiliau TG
  • Ni all meddygon cymwysedig weithio tra bod eu cais am loches yn cael ei brosesu

Ffoaduriaid

  • Mae ceiswyr lloches sydd wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais i Asiantaeth Ffiniau'r DU ac wedi derbyn statws ffoadur efo'r un hawl i weithio â dinasyddion y DU
  • Mae ganddynt hawl i gymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith wrth chwilio am waith neu os ar incwm isel

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50