Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Mewnfudo a Cheisio Lloches » Cyfraith a Hawliau



Cyfraith a Hawliau

Mae dinasyddion Prydain a dinasyddion Ewropeaidd o'r mwyafrif o wledydd y Gymanwlad gyda hawl i gael eu heithrio o bolisi mewnfudo, ond mae yna amgylchiadau penodol ble fydd pobl sydd heb eu geni yn y DU ond yn ymweld, ceisio lloches neu'n byw a gweithio yn y DU efo hawliau a chyfreithiau ychydig yn wahanol sy'n rhaid cadw atynt.

Dinasyddion Ewropeaidd

  • Mae dinasyddion Ewropeaidd sy'n byw yn y DU efo'r un hawliau â'r bobl sydd wedi'u geni yn y DU neu Gymru

Ymwelwyr

  • Nid yw person sy'n ymweld â'r DU, sy'n dod o wlad sydd ddim yn yr Undeb Ewropeaidd neu Ardal Economaidd Ewrop (AEE), yn cael priodi na bod mewn partneriaeth sifil os nad ydynt yn gwneud cais am ganiatâd cyn yr ymweliad

Ceiswyr Lloches

  • O dan gyfraith ryngwladol, mae gan bawb yr hawl i wneud cais am loches yn y DU ac i aros yn y DU nes bod yr awdurdodau wedi asesu eu cais am loches
  • Nid oes y fath beth â cheisiwr lloches anghyfreithlon, ac mae’r Confensiwn Ffoaduriaid 1951 yn sicrhau'r hawl i wneud cais am loches
  • Mae yna broses a system fanwl ynglŷn â sut y prosesir ceisiadau ceiswyr lloches
  • Rhaid i bobl sy’n ceisio lloches yn y DU wneud cais cyn gynted ag y maent yn dod i'r wlad
  • Unwaith y gwneir cais am loches, mae’n mynd i mewn i’r system loches, ac yn cael ei wirio yn unol â deddfwriaeth y DU. Mae’r broses honno wedi’i seilio ar gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig sy’n ymwneud â ffoaduriaid
  • Mae’r broses loches yn cael ei gweinyddu gan ran o’r Swyddfa Gartref o'r enw Cyfarwyddiaeth Mewnfudo a Chenedligrwydd
  • Yn gyffredinol mae ceisiwr lloches sy’n gwneud cais porthladd yn cael dod i’r wlad dros dro tra bydd y cais yn cael ei adolygu
  • Mae’n anghyfreithlon cyrraedd yn y DU heb ddogfennau adnabod dilys oni bai bod esboniad da am hynny

Cyfreithiau mewnfudo

Mae cyfreithiau mewnfudo’r DU yn ymwneud â’r meysydd canlynol:

  • Fframwaith cyfreithiol mewnfudo’r DU a chyfraith genedlaethol
  • Ceisiadau am fewnfudo sy’n cynnwys lloches a cheisiadau mewnfudo sy’n gysylltiedig â busnes
  • Rheoliadau lles, cyfraith deuluol, cyfraith droseddol a chymorth cyfreithiol
  • Materion trethi a chorfforaethol
  • Eiriolaeth

Mae fframwaith cyfraith mewnfudo’r DU yn cael ei ddarparu o hyd gan Ddeddf Fewnfudo 1971 ac wedi cael ei ddilyn gan sawl Deddf arall hyd at Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Yn 2008 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru "Strategaeth Cynhwysiad Ffoaduriaid" yn gosod allan eu hymrwymiad i geiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru. Roedd y strategaeth yn amlinellu dull partneriaeth i:

  • Wella cyfathrebu, cynyddu cyfieithu addas a chyfleusterau dehongliad
  • Adeiladu cymunedau cryf - drwy gynyddu dealltwriaeth rhwng ceiswyr lloches a ffoaduriaid a chymunedau sy'n eu derbyn
  • Gwella'r mynediad i gyflogaeth a hyfforddiant
  • Darparu mynediad teg a chyfartal i wasanaethau craidd - yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gael mynediad i'r gwasanaethau mae ganddynt hawl iddynt

Yn 2013 cafodd Mesur Mewnfudo ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU i wneud y broses o symud pobl heb hawl i fod yn y DU yn gyflymach ac yn haws.

Hawliau Cyfreithiol i Geiswyr Lloches

Mae gan geiswyr lloches yr un hawliau cyfreithiol â dinasyddion y DU. Er hynny, rhoddir cymorth cyfreithiol ar sail unigol, yn ôl yr achos hwn, ac ni ellir gwarantu’r hawl hon.

Os yw ceisiwr lloches yn gymwys i dderbyn cymorth cyfreithiol am ddim, gall gynnwys:

  • Cyngor ar y gweithdrefnau o wneud cais am loches
  • Help wrth ddrafftio’r cais am loches
  • Ad-dalu costau teithio i’r cyfweliadau cais am loches ac apêl, ac oddi yno
  • Cael cynghorydd cyfreithiol neu gynrychiolydd i fynd gyda thi i’r cyfweliad am loches
  • Cael cyfieithydd gyda thi yn y cyfweliad am loches

Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn darparu cefnogaeth arbenigol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n byw yng Nghymru ac yn gallu cynnig help a chyngor.

Mewnfudwyr Anghyfreithlon

Mae mewnfudwr anghyfreithlon yn y DU yn rhywun:

  • Sydd ddim wedi cyflwyno cais i'r Swyddfa Gartref yn ceisio lloches yn y DU
  • Sydd wedi aros yn hirach na'r amser caniateir gyda fisa ymwelydd cyffredinol, gwaith neu astudio
  • Wrth dorri Cyfraith Mewnfudo, gall yr unigolyn gael ei arestio, ei gaethiwo a'i orfodi i ddychwelyd i'w wlad wreiddiol
  • Mae unrhyw un sydd yn cyflogi mewnfudwr anghyfreithlon yn fwriadol yn gallu cael eu herlyn hefyd

Masnachu Pobl

Mae dioddefwyr Masnachu Pobl yn aml yn amharod i gydweithredu gyda'r awdurdodau, yn ofni'r canlyniad o ddarparu tystiolaeth yn erbyn eu hymosodwyr.

Bydd Mesur Caethwasiaeth Fodern yn dod i effaith yn y DU i sicrhau eu hamddiffyniad.

  • Bydd y Mesur yn sicrhau amddiffyniad a chefnogaeth well i ddioddefwyr
  • Yn sicrhau bod y sawl sy'n cyflawni'r trosedd hwn yn gallu derbyn uchafswm o ddedfryd am oes
  • Yn sicrhau bod y rhai sydd wedi derbyn euogfarn eisoes am drosedd rhywiol neu dreisgar difrifol yn wynebu dedfryd am oes awtomatig

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50