Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Mewnfudo a Cheisio Lloches » Arian



Arian

Mae hawliau a mynediad i gymorth ariannol yn y DU yn amrywio yn ôl amodau i fewnfudwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid.

Dinasyddion Ewropeaidd

  • Mae dinasyddion Ewropeaidd sy'n dod i'r wlad yn gorfod bwriadu dod yn rhan o'r economi cyflogaeth wrth gael swydd, dod yn hunangyflogedig neu sefydlu cwmni
  • Ond, mae ganddynt hawl i dderbyn cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith wrth chwilio am waith neu os ydynt ar incwm isel ac yn gallu cael mynediad i'r budd-daliadau yma trwy'r Canolfan Byd Gwaith

Ymwelwyr

  • Dyw'r mwyafrif o fisas ddim yn caniatáu i ymwelwyr a mewnfudwyr i hawlio budd-daliadau, credydau treth na chymorth tai sydd yn cael ei dalu gan y wladwriaeth
  • Mae disgwyl bod gan ymwelwyr yswiriant meddygol ar gyfer costau unrhyw driniaeth feddygol maent ei angen os nad yw'n cael ei roi yn adran damwain ac argyfwng ysbyty

Ceisiwyr Lloches

Tra bydd cais am loches yn cael ei benderfynu mae yna gymorth ar gael gan Asiantaeth Ffiniau'r DU. Mae hyn yn ddibynnol ar incwm neu ar allu unigolyn i gefnogi ei hun neu ei deulu.

Cymorth Ariannol

  • Os ydy ceisiwr lloches yn anghenus, sy'n golygu yn ddigartref neu heb arian i brynu bwyd, yna efallai byddant yn cael cynnig tŷ am ddim, cymorth ariannol neu'r ddau, cefnogaeth ariannol yw hyn
  • Mae'r arian ar gyfer pethau hanfodol fel bwyd, dillad a thaclau ymolchi
  • Os yw'r gofynion i dderbyn cefnogaeth yn cael eu cyrraedd, yna bydd y perchennog achos o Asiantaeth Ffiniau'r DU yn trefnu bod arian ar gael o swyddfa bost lleol bob wythnos
  • Dim ond drwy gyflwyno Cerdyn Cofrestru Cais (ARC) gellir casglu'r arian, mae'r rhain yn cael eu rhoi gan Asiantaeth Ffiniau'r DU fel modd o adnabyddiaeth
  • Os bydd y cerdyn yma yn cael ei golli neu'i ddwyn yna dylai gadael i'r perchennog achos wybod yn syth
  • Os yw Cymorth Ariannol yn cael ei gynnig yna bydd yn cael ei gynnwys yn y Cytundeb Cefnogaeth Lloches
  • Os yw amodau'r cytundeb yma yn cael eu torri, fel peidio aros mewn cysylltiad gyda'r perchennog achos neu ddim yn dweud wrthynt am newidadau yn dy amodau, yna gallai'r arian yma gael ei wahardd dros dro neu'i stopio

I gael gwybod am yr union swm o Gefnogaeth Ariannol sydd ar gael cer i uba.homeoffice.gov.uk.

Arian Ychwanegol i Famau a Phlant

  • Os yw ceisiwr lloches yn feichiog neu efo plant o dan dair oed yna mae yna arian ychwanegol ar gael i brynu bwyd bob wythnos
  • Mae yna hefyd daliad mamolaeth untro sy'n gallu cael ei roi i helpu gyda chostau cael babi newydd

I gael gwybod am yr union swm o Arian Ychwanegol sydd ar gael a sut i wneud cais amdano yna cer i ukba.homeoffice.gov.uk.

Ffoaduriaid

  • Mae ceiswyr lloches sydd wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais i Asiantaeth Ffiniau'r DU ac wedi cael statws ffoadur efo'r un hawliau i fudd-daliadau â dinasyddion y DU
  • Mae ganddynt hawl i dderbyn cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith wrth chwilio am gyflogaeth neu os ar incwm isel ac yn gallu cael mynediad i'r budd-daliadau yma drwy'r Canolfan Byd Gwaith

Cyfrifon banc

  • Er mwyn agor cyfrif banc yn y DU, mae angen prawf adnabyddiaeth a chyfeiriad parhaol. Gall hyn fod yn anodd i fewnfudwr neu geisiwr lloches
  • Ond bydd rhai banciau yn derbyn cerdyn cofrestru cais (ARC) sy'n cael ei roi gan Asiantaeth Ffiniau'r DU fel modd o adnabyddiaeth

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50