Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Mewnfudo a Cheisio Lloches » Iechyd



Iechyd

Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn darparu'r hawl i holl ddinasyddion y DU i ofal iechyd am ddim tra yn y wlad yma ac mae hefyd yn wir i holl ddinasyddion y UE.

Nid oes gan ymwelwyr i'r DU hawl i ofal iechyd am ddim ac mae disgwyl iddynt gael yswiriant meddygol i dalu am driniaeth os nad yw'n driniaeth o'r adran damwain ac argyfwng.

Ceiswyr Lloches

  • Mae gan bob ceisiwr lloches a ffoadur hawl i ofal iechyd am ddim o dan y GIG tra yn y DU
  • Mae gofal iechyd yn cael ei wrthod i geiswyr lloches y mae eu cais wedi methu, oni bai bod eu cyflwr yn un allai fygwth eu bywyd
  • Mae’r GIG yn darparu’r canlynol i geiswyr lloches lwyddiannus: meddyg teulu (GP), deintydd, gwasanaethau cynllunio teulu, gwasanaethau cymdeithasol a gofal ysbyty
  • Fel unrhyw ddinesydd yn y DU, rhaid i geiswyr lloches dalu am rai gwasanaethau iechyd, fel profion llygaid, rhai presgripsiynau a pheth triniaeth ddeintyddol. Ond os wyt ti'n byw yng Nghymru mae presgripsiynau i gyd am ddim
  • Dylai perchennog achos yn Asiantaeth Ffiniau'r DU gael gwybod os yw ceisiwr lloches neu aelod o'u teulu efo anghenion iechyd difrifol arbennig neu benodol

Cofrestru Gyda Meddyg/GP

  • Mae gan bob ceisiwr lloches hawl i gael ei gofrestru’n llawn gyda meddyg y GIG
  • Does dim gorfodaeth ac nid oes disgwyl i feddygon wirio statws mewnfudo’r claf
  • O dan y Ddeddf Cysylltiadau Hil a’r Ddeddf Hawliau Dynol, ni ddylai meddygon y GIG wahaniaethu yn erbyn mewnfudwyr

Gofal Mewn Ysbyty

Mae pob ceisiwr lloches sydd â cheisiadau yn cael eu prosesu gyda hawl i ofal am ddim mewn ysbyty. Mae'r tri chwestiwn canlynol yn cael ei ofyn wrth gofrestru ar gyfer triniaeth mewn ysbyty:

  • Ydych chi wedi bod yn byw yma ers 12 mis?
  • Pa ddyddiad gyraeddasoch chi yn y DU?
  • Beth yw pwrpas eich arhosiad yn y DU?

Mae hyn yn darparu gwybodaeth wrth bennu a oes gan glaf hawl i ofal iechyd am ddim neu beidio.

  • Bydd yr ysbyty yn gofyn am ddogfen sydd naill ai’n dangos bod y claf wedi ennill statws ffoadur yn y DU, neu’n gwneud cais am hynny
  • Gall ysbytai gysylltu â’r Swyddfa Gartref os na all claf ddangos unrhyw ddogfennau

Cymorth Gyda Chostau Iechyd Ychwanegol

  • Mae rhai ceiswyr lloches sydd heb arian ac sy'n derbyn cefnogaeth gan Asiantaeth Ffiniau'r DU yn gallu derbyn gofal deintyddol, prawf llygaid, help i dalu am sbectol a phresgripsiynau am ddim gyda thystysgrif HC2
  • Mae'r dystysgrif am ddim, yn ddilys am chwe mis ac yn gallu cael ei ddefnyddio gan unrhyw unigolyn o deulu sy'n ceisio lloches
  • Mae'r perchennog achos, y person sy'n ymdrin â'r cais am loches yn Asiantaeth Ffiniau'r DU, yn gallu darparu gwybodaeth am gael tystysgrif HC2
  • Mae posib i rai ceiswyr lloches sydd ddim yn gymwys i gefnogaeth gan Asiantaeth Ffiniau'r DU, derbyn help gyda chostau iechyd ychwanegol drwy lenwi ffurflen HC1 sydd ar gael trwy'r Canolfan Byd Gwaith Lleol, ysbyty GIG neu wrth alw'r llinell gymorth Costau Iechyd ar 0845 850 1166

Costau Presgripsiynau

  • Os wyt ti'n byw yng Nghymru yna nid oes rhaid talu am bresgripsiynau
  • Os wyt ti'n byw yn y DU, ond nid yng Nghymru, yna mae ceiswyr lloches yn cael presgripsiynau am ddim o dan yr un amodau â dinasyddion eraill. Mae'n rhaid iddynt fod yn 16 oed neu’n iau, dan 19 oed os ydynt mewn addysg amser llawn, dros 60 oed neu’n meddu ar ’dystysgrif eithrio’ os ydynt yn feichiog neu ar sail feddygol

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50