Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Arian » Yswiriant



Yswiriant

Sicrwydd ariannol ar gyfer rhywbeth yr ydwyt yn berchen arno yw yswiriant.

Gallet ti yswirio Cardy gar, dy gartref, >dy deithio, >dy iechyd, dy anifeiliaid anwes, dy gardiau banc a dy gardiau siopa ymhlith nifer o bethau eraill.

Mae yswiriant yn dy helpu â’r costau pan fydd rhywbeth yn mynd o chwith. Er enghraifft, os bydd angen llawdriniaeth ar dy anifail anwes, yna gall y cwmni yswiriant dy helpu â biliau’r milfeddyg.

Mae rhai mathau o yswiriant yn orfodol. Er enghraifft, mae angen i ti fod ag yswiriant i yrru er mwyn rhoi sicrwydd i ti ar gyfer damweiniau neu ddifrod i gar neu eiddo rhywun arall.

Yn achos mathau eraill o yswiriant, mater o dy ddewis personol di ydyn nhw. Er enghraifft, yswiriant teithio. Er mwyn gweld a yw’n werth chweil cael y math yma o yswiriant, fe fydd angen i ti ystyried beth fyddai’r effaith debygol arnat ti pe byddai rhywbeth yn mynd o chwith, a chymharu hynny â chost yr yswiriant.

Pan fydd gennyt ti yswiriant, fe fyddi di’n talu premiwm, sef y swm y byddi di’n ei dalu i’r cwmni yswiriant bob blwyddyn neu bob mis. Mae hyn yn rhoi sicrwydd iti rhag ofn y bydd rhywbeth yn mynd o chwith.

Mae gan bob cwmni yswiriant bolisïau gwahanol ar gyfer gwahanol bethau. Mae rhai yn ddrutach nag eraill, felly mae’n bwysig ymchwilio i’r opsiynau er mwyn cael bargen dda

Darllena'r polisi yswiriant yn ofalus iawn cyn ei lofnodi, a gwna'n siŵr dy fod di’n deall YN UNION beth mae’n ei warantu.

Mae’r rhan fwyaf o bolisïau yswiriant yn dynodi tâl-dros-ben. Dyma’r swm y bydd angen i ti ei dalu pan fyddi di’n cyflwyno hawliad ar dy yswiriant. Er enghraifft, os bydd gennyt ti dâl-dros-ben o £50 mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i ti dalu £50 cyntaf unrhyw hawliad. Bydd dy yswiriwr yn talu’r gweddill.

Mae gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol un neu ddau o adrannau ar undebau credyd, gan gynnwys:

Gallet gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun - Gwener 8am - 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.

Gallet gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffoniwch (23456 080880).

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50