Gwybodaeth » Arian » Yswiriant » Yswiriant Iechyd neu Afiechyd Difrifol
Yn yr Adran Hon
Yswiriant Iechyd neu Afiechyd Difrifol
Mae’r math yma o yswiriant yn rhoi sicrwydd ar gyfer cost trin cyflyrau meddygol y mae modd eu gwella yn yr ysbyty yn breifat.
Os oes gennyt ti yswiriant meddygol, nid oes yn rhaid i ti aros am lawdriniaethau nad oes eu hangen ar frys, a gallet ti ddewis amser y llawdriniaeth.
Gallet ti dalu swm ychwanegol i gael cyngor ac asesiadau iechyd, help â chludiant i’r ysbyty ac oddi yno, yn ogystal â buddion ariannol.
Yswiriant Salwch Difrifol ac Yswiriant Diogelu Incwm
- Mae yswiriant salwch difrifol yn talu allan cyfandaliad os ydwyt yn dioddef o salwch a restrir yn y polisi
- Cafwyd yswiriant diogelu incwm ei gynllunio i roi incwm i ti os ydwyt yn rhy sâl i weithio
- Mae gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol tabl ardderchog sy'n esbonio manteision ac anfanteision pob math o yswiriant
- Yswiriant salwch difrifol neu yswiriant diogelu incwm?
- A oes angen yswiriant meddygol preifat arnot?
- Sut a ble i brynu yswiriant salwch difrifol
- Oes angen yswiriant deintyddol arnat?
Mae pob polisi yn amrywio, felly gwna'n siŵr dy fod di’n ymchwilio i’r fargen sydd fwyaf addas i ti. Gwna'n siŵr dy fod di’n deall yn iawn yr hyn mae dy bolisi yn ei warantu. Cysyllta â Chymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain (BIBA) neu'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol i gael cyngor.
Mae gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol un neu ddau o adrannau ar undebau credyd, gan gynnwys:
Gallet gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun - Gwener 8am - 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.
Gallet gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffoniwch (23456 080880).