Gwybodaeth » Arian » Yswiriant » Yswiriant Teithio
Yn yr Adran Hon
Yswiriant Teithio
- Mae yswiriant teithio (neu yswiriant gwyliau) yn rhoi sicrwydd ar gyfer costau meddygol, cansladau, colli bagiau, damweiniau personol a chostau cyfreithiol
- Mae cost yswiriant teithio yn dibynnu ar hyd y cyfnod y byddi di’n teithio, lle'r ydwyt yn mynd a’r math o wyliau yr ydwyt yn mynd arnyn nhw
- Os ydwyt yn teithio llawer iawn, gallet ti godi yswiriant blynyddol sydd, fel arfer, yn rhatach na chodi yswiriant bob tro y byddi di’n teithio
- Bydd rhai trefnwyr teithiau yn cynnig yswiriant teithio i ti pan fyddi di’n archebu dy wyliau, ond byddai’n ddoeth a chwilio am y fargen orau yn gyntaf. Gallet ti gael yswiriant teithio ar y Rhyngrwyd, mewn rhai archfarchnadoedd penodol ac mewn fferyllfeydd, cwmnïau yswiriant, banciau a swyddfa’r post
Mae pob polisi yn amrywio, felly gwna'n siŵr dy fod di’n ymchwilio i’r fargen sydd fwyaf addas i ti cyn i ti deithio. Gwna'n siŵr dy fod di’n deall yn iawn yr hyn mae dy bolisi yn ei warantu cyn teithio. Cysyllta â Chymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain (BIBA) neu'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol i gael cyngor.
Mae gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol un neu ddau o adrannau ar undebau credyd, gan gynnwys:
- Oes arnot angen yswiriant teithio
- Yswiriant teithio - dewis y polisi a'r yswiriant iawn
- Bydda'n barod wrth iti wneud hawliad yswiriant teithio
Gallet gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun - Gwener 8am - 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.
Gallet gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffoniwch (23456 080880).