Gwybodaeth » Arian » Yswiriant » Diogelwch Cardiau
Yn yr Adran Hon
Diogelu Cardiau ac Yswiriant Diogelu Taliadau
Diogelu Cardiau
- Mae banciau a chwmnïau benthyciadau yn cynnig diogelwch cardiau i ddiogelu dy gardiau rhag nifer o risgiau
- Nid yw’n orfodol cael diogelwch cardiau, felly paid â theimlo dan bwysau i godi’r yswiriant yma os ydwyt yn ansicr
- Mae pob cerdyn credyd yn cynnig diogelwch rhag twyll. Er enghraifft, pe bai rhywun yn dwyn rhif dy gerdyn credyd ac yn ei ddefnyddio’n anghyfreithlon ar-lein neu dros y ffôn, fe fyddi di wedi dy ddiogelu ac ni fydd yn rhaid i ti dalu’r arian hwnnw yn ôl
Gall talu gyda cherdyn credyd roi diogelwch cyfreithiol gwerthfawr i ti os bydd y cwmni yr ydwyt yn ei brynu ohono'n mynd i'r wal neu os nad yw'n cyflawni'r hyn yr addawodd, ac efallai y gallet hawlio ad-daliad gan gwmni cerdyn credyd.
Efallai y byddet hefyd yn cael rhywfaint o amddiffyniad wrth dalu gyda cherdyn debyd o dan gynllun gwirfoddol. Gyda chardiau tâl nid ydwyt yn cael dy amddiffyn fel arfer.
Yswiriant Diogelu Taliadau
- Mae hwn yn rhoi sicrwydd ar gyfer ad-daliadau cerdyn credyd, benthyciad neu forgais pe byddi di’n colli dy incwm oherwydd salwch, damwain neu golli dy swydd
- Bydd rhai polisïau hefyd yn rhoi sicrwydd ar gyfer lladrad neu ddefnydd twyllodrus o dy gardiau
- Gwna'n siŵr dy fod di’n deall yn iawn yr hyn mae dy bolisi yn ei warantu, gan nad ydyw bob amser yn rhoi sicrwydd am lawer o afiechydon, a dim ond yn dy ddiogelu am ddyled benodol a ddim fel arfer yn dechrau am 90 diwrnod
Efallai dy fod wedi clywed am Yswiriant Diogelu Taliadau (PPI), oherwydd cafwyd ei gam-werthu i filiynau o bobl. Os ydwyt yn meddwl fod PPI wedi cael ei gam-werthu i ti, gweler rhai o'r dolenni isod.
Mae gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol un neu ddau o adrannau ar undebau credyd, gan gynnwys:
- Oes angen Yswiriant Diogelu Taliadau (PPI) Arnat?
- Sut yr ydwyt wedi dy ddiogelu pan fyddet yn talu gyda cherdyn
- Cynllun Gweithredu - Sut i adennill PPI
- Sut i adennill yswiriant gwarchod taliadau a'u cam-werthwyd
Gallet gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun - Gwener 8am - 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.
Gallet gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffoniwch (23456 080880).