Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Arian » Yswiriant » Yswiriant Modur



Yswiriant Modur

Mae yswiriant modur yn rhoi sicrwydd ar gyfer dy gostau os ydwyt yn cael damwain. Mae’n anghyfreithlon gyrru unrhyw gar neu gerbyd modur heb yswiriant ar gyfer y cerbyd hwnnw.

Mae cost yswiriant modur yn dibynnu ar dy oed, y math o gerbyd sydd gennyt ti, lle'r ydwyt yn byw ac ers pryd yr ydwyt wedi bod yn gyrru. Fel arfer, bydd yswiriant modur i yrwyr profiadol yn costio llai, gan fod ystadegau’n dangos eu bod yn llai tebygol o achosi damweiniau. Yn 2012 gwnaeth yr UE newidiadau fel na fydd merched yn derbyn yswiriant rhatach bellach.

Gallet ti leihau cost dy yswiriant os byddi di’n derbyn tâl-dros-ben uwch. Mae hyn yn golygu y byddi di’n talu mwy i hawlio ar dy yswiriant. Gallet ti hefyd leihau cost dy yswiriant os oes gennyt ti hanes o beidio â hawlio unrhyw beth o gwbl ar dy yswiriant am flwyddyn neu fwy. Mae hyn yn digwydd pan nad ydwyt yn hawlio o gwbl ar dy yswiriant.

Efallai y bydd rhai yswirwyr yn cynnig gostyngiad pellach i yrwyr os ydynt wedi cwblhau ac yn pasio cwrs Pass Plus neu Pass Plus Cymru.

Pan fyddi di’n prynu yswiriant modur, chwilia am y fargen orau ond darllena'r polisi yn ofalus iawn bob amser, a gwna'n siŵr dy fod di’n deall yr hyn mae’n ei warantu ac, yn bwysicach fyth, yr hyn nad yw’n ei warantu.

Mae yna dri math o yswiriant modur:

  1. Trydydd Parti yn Unig
    • Mae hwn yn ofynnol yn ôl y gyfraith. Os nad oes gennyt ti’r yswiriant yma pan fyddi di neu eraill yn gyrru, mae’n drosedd a gallet ti gael dy gyhuddo o’r drosedd
    • Mae yswiriant trydydd parti yn rhoi sicrwydd ar gyfer dy atebolrwydd cyfreithiol os byddi di’n anafu pobl eraill (trydydd pasrti) neu’n difrodi eiddo rhywun. Mae hyn yn golygu y bydd yn talu am gostau’r person arall, ond os yw dy gar di yn cael ei ddifrodi neu ei ddwyn, rhaid i ti dalu am y golled dy hun
  2. Trydydd Parti, Tân a Lladrad
    • Mae trydydd Parti, tân a lladrad yn rhoi sicrwydd i bobl eraill, felly o ran hynny, mae'n debyg i drydydd parti. Ond os yw dy car dy hun yn cael ei ddifrodi, rhaid i ti dalu amdano dy hun. Y gwahaniaeth yw ei fod yn cynnwys gwaith atgyweirio neu amnewidiad os bydd dy gar yn cael ei ddwyn neu'n cael ei ddifrodi gan dân
    • Fel yswiriant trydydd parti nid yw trydydd parti, tân a lladrad bob amser yn rhatach nag yswiriant cynhwysfawr - cymhara prisiau bob amser
  3. Cynhwysfawr
    • Y lefel uchaf o yswiriant. Ar ben hanfodion trydydd parti, tân a lladrad, hwn yw'r unig fath sy'n rhoi sicrwydd i ti os byddi di wedi gwneud difrod i dy gar dy hun, hyd yn oed os oedd y damwain yn dy fai di
    • Gallu di wneud cais am: trwsio ar ôl damwain, difrod damweiniol, neu fandaliaeth (dyweder os bydd rhywun yn fwriadol yn crafu dy gar)

Mae pob polisi yn amrywio, felly gwna'n siŵr dy fod fi’n ymchwilio i’r fargen sydd fwyaf addas i ti.

Gwna'n siŵr dy fod di’n deall yn llawn yr hyn mae dy bolisi yn ei warantu, a pheidia byth â gyrru heb yswiriant. Cofia, mae dy yswiriant yn berthnasol i ti a cherbyd penodol, nid unrhyw gerbyd. Peidia byth â gadael i rywun yrru dy gar heb fod ag yswiriant ar gyfer hynny.

Cysyllta â Chymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain (BIBA) neu'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol i gael cyngor.

Mae gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol un neu ddau o adrannau ar undebau credyd, gan gynnwys:

Gallet gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun - Gwener 8am - 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.

Gallet gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffoniwch (23456 080880).

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50