Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Arian » Yswiriant » Yswiriant Anifail Anwes



Yswiriant Anifail Anwes

Y prif reswm i gael yswiriant anifail anwes yw talu biliau'r milfeddyg os bydd dy anifail anwes yn sâl neu'n cael ei anafu (Nid oes unrhyw GIG ar gyfer anifeiliaid anwes).

Os yw dy anifail anwes yn rhan o'r teulu a fyddi di'n gwneud unrhyw beth i gael yr arian i dalu am driniaeth, yna dylet ystyried yswiriant anifeiliaid anwes.

Os oes gennyt ddigon o incwm neu gynilion gwario i allu talu'r milfeddyg dy hun, yna efallai na fydd ei angen arnat:

  • Mae yswiriant anifail anwes yn rhoi sicrwydd ar gyfer risgiau i anifail anwes, gan gynnwys ffioedd milfeddygon am afiechydon ac unrhyw anafiadau bydd dy anifail anwes yn cael (er efallai na fydd pigiadau blynyddol a thriniaeth reolaidd yn cael eu cynnwys)
  • Mae hefyd yn rhoi sicrwydd ar gyfer atebolrwydd cyfreithiol (trydydd barti) os bydd dy anifail anwes yn anafu rhywun neu’n difrodi eu heiddo (efallai bydd dy yswiriant cynnwys y cartref yn ymdrin â hyn - mae'n werth edrych)
  • Mae rhai polisïau yn darparu yswiriant oes, sy’n cynnwys cyflyrau tymor hir y gallai dy anifail anwes eu datblygu, fel ecsema neu arthritis
  • Mae pob polisi yn amrywio, felly gwna'n siŵr dy fod di’n ymchwilio i’r fargen sydd fwyaf addas i ti

Gwna'n siŵr dy fod di’n deall yn iawn yr hyn mae dy bolisi yn ei warantu.

Mae gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol un neu ddau o adrannau ar undebau credyd, gan gynnwys:

Gallet gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun - Gwener 8am - 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.

Gallet gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffoniwch (23456 080880).

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50