Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Arian » Yswiriant » Yswiriant Tŷ



Yswiriant Tŷ

Mae cost yswirio dy dŷ yn dibynnu ar ei faint, y math o eiddo a lle yr ydwyt yn byw. Os ydwyt yn byw mewn ardal â chyfradd trosedd uchel, gallet ti ddisgwyl i dy bremiwm yswiriant fod yn uwch.

Efallai y byddi di’n gallu lleihau cost dy yswiriant os oes gennyt ti hanes o beidio â hawlio, larwm diogelwch neu ddyfais diogelwch wedi’i gosod neu dy fod di'n perthyn i Gynllun Gwarchod Cymdogaeth.

Mae yna ddau fath o yswiriant:

  1. Yswiriant Adeiladau
    • Os ydwyt yn berchen ar dy gartref mae’r math yma o yswiriant yn orfodol
    • Mae’n gwarantu strwythur dy dŷ, gan gynnwys gosodion a ffitiadau, rhag difrod a achosir gan dân, llifogydd, storm ac ymsuddiad (pan fydd caledwch y tir mae dy gartref wedi’i godi arno yn effeithio arno)
    • Dylai’r swm uchaf y bydd dy yswiriwr yn ei dalu (y swm yswiriedig) fod yn ddigon i dalu am gost ailadeiladu dy gartref
    • Bydd rhai polisïau yn rhoi sicrwydd ar gyfer difrod damweiniol, ond bydda'n barod i dalu mwy am hyn
  2. Yswiriant Cynnwys
    • Mae hwn yn rhoi sicrwydd ar gyfer lladrad, colled neu ddifrod i ddodrefn ac eitemau yn dy gartref
    • Bydd y rhan fwyaf o bolisïau yn talu am gost lawn cael dodrefn neu eitemau newydd yn lle’r hen rai
    • Efallai y bydd rhai polisïau yn rhoi sicrwydd ar gyfer difrod damweiniol, sy’n cynnwys difrod i eitemau gwerthfawr fel gemwaith, neu eu colli, y tu mewn neu’r tu allan i’ch cartref. Bydda'n barod i dalu mwy am y sicrwydd yma
    • Darllena'r polisi yn ofalus, gan y gallet ti weld nad yw’n rhoi sicrwydd ar gyfer rhai amgylchiadau penodol
    • Pan fyddi di’n gwneud cais am yswiriant cynnwys, bydd gofyn i ti ddarparu rhestr o’r holl eitemau o bwys yn dy gartref y mae’n werth eu hyswirio, ynghyd â’u gwerth. Bydd angen yswirio rhai eitemau drud, er enghraifft beic, ar wahân
    • Mae’n ddoeth bod â thystiolaeth o dy eitemau sydd wedi’u hyswirio. Gallet ti wneud hyn trwy dynnu ffotograff o’r eitemau yma, neu eu ffilmio, fel cofnod ohonyn nhw
    • Nid yw gwerth personol eitem yn cael ei ystyried; mae’r gwerth yn cael ei gyfrifo yn nhermau gwerth ariannol
    • Cofia adnewyddu dy yswiriant cynnwys ar ddiwedd y flwyddyn. Cofia ychwanegu eitemau newydd y mae’n werth eu hyswirio at dy bolisi newydd

Mae pob polisi yn amrywio, felly gwna'n siŵr dy fod di’n ymchwilio i’r fargen sydd fwyaf addas i ti. Gwna'n siŵr dy fod di’n deall yn iawn yr hyn mae dy bolisi yn ei warantu. Cysyllta â Chymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain (BIBA) neu'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol i gael cyngor.

Mae gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol un neu ddau o adrannau ar undebau credyd, gan gynnwys:

Gallet gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun - Gwener 8am - 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.

Gallet gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffoniwch (23456 080880).

Cysyllta â Chymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain (BIBA) neu'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol i gael cyngor.

Gallet gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun - Gwener 8am - 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.

Gallet gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffoniwch (23456 080880).

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50