Gwybodaeth » Arian » Yswiriant » Yswiriant Bywyd
Yn yr Adran Hon
Yswiriant Bywyd
Mae cost yswiriant bywyd wedi’i seilio ar nifer o ffeithiau amdanat ti. Mae’r gost yn dibynnu ar dy ryw, dy oed, p’un a ydwyt yn ysmygu ai peidio â p’un a oes gennyt ti unrhyw gyflyrau meddygol.
Mae yna ddau brif fath o yswiriant bywyd - yswiriant tymor ac yswiriant oes.
Yswiriant Tymor
- Math syml, rhad ar yswiriant bywyd yw hwn, ac mae’n rhoi sicrwydd dros gyfnod o amser yn unig, fel 30 mlynedd
- Os byddi di’n marw yn ystod y cyfnod yma o amser, fe fydd dy yswiriant yn talu swm penodol o arian i dy ddibynyddion
- Os byddi di’n goroesi’r cyfnod penodol yma, yna ni fyddan nhw’n talu unrhyw swm o arian
- Yn aml, bydd pobl yn codi yswiriant tymor i roi sicrwydd iddyn nhw tra’u bod yn talu morgais neu hyd nes bydd eu plant wedi tyfu i fyny, fel na fydd yn rhaid i’w plant dalu’r costau yma pe bydden nhw’n marw
Yswiriant oes
- Mae hyn yn rhoi sicrwydd i ti hyd nes y byddi di’n marw, ac mae’n fath o yswiriant sy’n ddrutach
- Pan fyddi di’n marw, fe fydd dy ddibynyddion yn derbyn swm o arian
- Mae’r rhan fwyaf o bolisïau yn cynnwys cymal ’gydag elw’ sy’n golygu y bydd dy ddibynyddion hefyd yn derbyn cyfran o unrhyw elw a ddaw i ran y cwmni yswiriant
Mae pob polisi yn amrywio, felly gwna'n siŵr dy fod di’n ymchwilio i’r fargen sydd fwyaf addas i ti. Gwna'n siŵr dy fod di’n deall yn iawn yr hyn mae dy bolisi yn ei warantu. Cysyllta â Chymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain (BIBA) neu'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol i gael cyngor.
Mae gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol un neu ddau o adrannau ar undebau credyd, gan gynnwys:
- Oes angen yswiriant bywyd arnot?
- Sut a ble i brynu yswiriant bywyd
- Yswiriant bywyd – dewis y polisi a’r yswiriant cywir
Gallet gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun - Gwener 8am - 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.
Gallet gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffoniwch (23456 080880).