Gwybodaeth » Arian » Yswiriant » Yswriant Ffn
Yn yr Adran Hon
Yswiriant Ffôn
Ar lefel sylfaenol, mae yswiriant ffôn symudol yn dy warchod rhag ofn bydd dy ffôn yn cael ei golli, ei ddwyn neu wedi torri.
Os ydwyt newydd wneud cais am ffôn symudol newydd neu uwchraddio dy ffôn, y tebygolrwydd yw bod rhywun wedi ceisio gwerthu yswiriant ffôn symudol i ti. Ond a ydwyt ei angen?
Yn gyffredinol, mae'n dod lawr i dri pheth:
- Gwerth dy ffôn (os ydwyt yn ei berchen yn llwyr)
- Yr ad-daliadau contract os oes gennyt gontract ffôn symudol
- Yr anghyfleustra o ailosod ffôn a gollwyd neu a ddifrodwyd
Pe byddet yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r arian neu'r amser i naill ai gymryd lle dy ffôn neu barhau i dalu contract, yna gallet ystyried prynu yswiriant.
Nid les rhaid i ti gymryd yswiriant gall llawer o yswirwyr trydydd parti yn darparu diogelwch rhatach ac mae'n werth siopa o gwmpas.
Nid oes rhaid i yswiriant ffôn symudol gael eu cymryd allan gyda dy darparwr ffôn - gall llawer o yswirwyr trydydd parti darparu diogelwch rhatach ac mae'n werth siopa o gwmpas.
Gall sicrwydd yswiriant weithiau cael ei darparu gan dy gyfrif banc, felly mae'n werth darganfod hyn cyn prynu ar dy ben eich hun.
Fel gyda phob yswiriant, gwiria'n union beth sy'n cael ei gynnwys yn yswiriant dy ffôn cyn cofrestru
Gallet gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun - Gwener 8am - 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.
Gallet gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffoniwch (23456 080880).