Gwybodaeth » Tai » Dod o Hyd i Lety Rhent » Sut i Ddod o Hyd i Lety
Yn yr Adran Hon
Sut i Ddod o Hyd i Lety
Os wyt ti'n chwilio am lety ar rent yn dy ardal leol yna mae yna sawl gwefan gallet ti edrych arnynt. Gall hefyd ddod o hyd i lefydd rhent mewn papurau lleol, neu ar hysbysfyrddau mewn swyddfeydd post a siopau ac yn y brifysgol neu'r coleg lleol.
- Os wyt ti'n chwilio am lety i ffwrdd o dy ardal leol, yna chwilio ar-lein am fflat neu dŷ ydy'r opsiwn gorau
- Hefyd, gall ddod o hyd i rywle i fyw gydag asiantaeth gosod. Trwy dalu ffi, bydd asiantaeth gosod yn rhoi cymorth i ti ddod o hyd i lety i weddu dy ofynion. Caiff eiddo sy'n cael ei hysbysebu trwy asiantaeth gosod ei reoli naill ai gan yr asiantaeth neu gan landlord preifat
Dy Gyllideb
Wrth chwilio am rywle i fyw, mae'n bwysig cadw at yr hyn y gallet ti ei fforddio. Cyfrifa gyllideb a bydda'n realistig o ran faint gallet ti dalu.
- Cyfrifa dy incwm a threuliau er mwyn darganfod faint o rent y gallet ti fforddio ei dalu. Gweler adran Cyllidebu am ragor o wybodaeth
- Paid â theimlo bod pwysau i ddewis eiddo na fedri di ei fforddio. Os na fedri di dalu'r rhent, bydd dy landlord neu'r asiantaeth gosod yn codi tâl ychwanegol arnat ti ac ar rai achlysuron yn dy droi allan o'r eiddo
- Mae pob asiantaeth gosod yn codi tâl gwahanol ac mae ganddynt wahanol fathau o eiddo gan ddibynnu ar dy anghenion. Cymera dy amser i chwilio'n drylwyr
- Unwaith i ti benderfynu ar eiddo i'w rhentu, bydd angen bond neu flaendal ar yr asiantaeth gosod neu'r landlord. Bydd hwn fel arfer yn bris rhent un mis ac fe ddefnyddir i dalu am unrhyw ddifrod neu drwsio sydd ei angen pan fyddi di'n gadael. Os byddi di'n cadw'r tŷ’n dwt a thaclus yn ystod y denantiaeth, byddi di'n cael y bond i gyd yn ôl
- Os oes rhaid i ti dalu bond yna sicrha dy fod di'n cael rhestr eiddo, sef rhestr o'r holl eitemau sydd yn cael ei ddarparu yn y llety a'u cyflwr cyn i ti symud i mewn. Mae hefyd yn syniad da tynnu lluniau, fel hyn gall profi bod rhywbeth wedi'i dorri neu'i staenio yn barod cyn i ti fyw yn yr eiddo felly ni fyddi di'n cael dy godi amdano pan fyddi di'n gadael
- Os na gefais di dy fond yn ôl ac rwyt ti'n teimlo bod hynny'n anghyfiawn, cysyllta â'r Canolfan Cyngor ar Bopeth lleol am gyngor
Pethau i chwilio amdanynt wrth ddod o hyd i rywle i fyw
Mae'n ddefnyddiol ysgrifennu rhestr wirio o'r pethau rwyt ti eu hangen o dy dŷ neu fflat:
- Gwres canolog?
- Gwydro dwbl?
- Agos at y coleg / brifysgol a'r siopau lleol?
- Ar lwybr bws da?
- Man parcio neu ardd?
Os oes gen ti ddiddordeb mewn eiddo, gall yr asiantaeth gosod neu'r landlord drefnu i ti edrych arno.
- Wrth edrych ar yr eiddo, gwna nodyn o'r ardal leol. Wyt ti'n teimlo'n gyfforddus a diogel? Pa fathau o bobl sy'n byw yn yr ardal? Gall hefyd ymchwilio'r ardal ar-lein am ragor o wybodaeth
- Darganfydda’ mwy am yr offer cegin, beth sy'n cael ei gynnwys ac os ydy popeth yn gweithio'n iawn
- Gall tamp fod yn broblem mewn tai hŷn ac yn gallu gwneud niwed i iechyd, felly bydda'n ymwybodol o unrhyw farciau ar y waliau, sbotiau du neu fowld
- Am wybodaeth bellach am beth i chwilio amdano ymwela â'r adran Rhentu
- Mae dod o hyd i rywle i fyw yn cymryd llawer o amser, felly paid â brysio. Efallai y bydd angen i ti edrych ar lawer o lefydd i fyw cyn i ti ddod o hyd i rywle gweddus, felly ceisia beidio â gwneud penderfyniad ar frys
- Unwaith i ti benderfynu, fel arfer bydd rhaid i ti roi blaendal neu fond i sicrhau'r eiddo a gwneud yn siŵr na fydd unrhyw un arall yn ei gael ef
Tai Cyngor
Mae gan y rhan fwyaf o gynghorau eiddo i'w renti am bris rhesymol. Cysyllta ag adran dai dy gyngor lleol am wybodaeth bellach.
- Gall tai cyngor amrywio o ran safon ac mae'r rhestr aros yn tueddu i fod yn hir, felly gwna gais cyn gynted ag y gallet. Rhoddir blaenoriaeth i grwpiau penodol megis y digartref neu rieni unigol
Cymdeithasau Tai
Mae cymdeithasau tai yn y rhan fwyaf o lefydd ac maen nhw'n cynnig nifer o wahanol fathau o lety.
- Bydd rhent fel arfer yn rhatach na'r hyn y mae landlordiaid preifat yn ei godi, ond bydd rhaid i ti fodloni meini prawf arbennig i ddod yn denant cymdeithas tai
- Mae rhai cymdeithasau tai'n cynnig cynlluniau lle byddi di'n prynu tŷ mewn partneriaeth â'r nhw. Rwyt ti'n talu rhent iddynt, sy'n cyfrannu at forgais
- Cysyllta â'r gymdeithas tai perthnasol am ragor o wybodaeth. Yn debyg i dai'r cyngor, gall y rhestrau aros fod yn hir a rhoddir blaenoriaeth i grwpiau arbennig