Gwybodaeth » Tai » Dod o Hyd i Lety Rhent » Lletya
Yn yr Adran Hon
Lletya
Os wyt ti'n lletya, rwyt ti'n byw yn yr un llety â'r landlord ac yn talu rhent am fyw yno.
- Os wyt ti'n chwilio am rywle i fyw fel lletywr, ceisia edrych ar-lein ar wefannau lleol, mewn papurau newydd lleol, ar hysbysfyrddau mewn swyddfeydd post a siopau ac yn y brifysgol neu'r coleg lleol
- Pan rwyt ti'n byw yn yr un llety â dy landlord, mae hawliau gwahanol gennyt ti nag y bydd gen ti fel tenant. Bydd lletywyr a landlordiaid fel arfer yn trafod yr hawliau hyn. Er enghraifft, os wyt ti am brynu a choginio bwyd dy hun, ac wyt ti'n mynd i gael preifatrwydd yn ystafell dy hun
- Os wyt ti'n lletya, does dim rhaid i ti gael cytundeb ysgrifenedig, er ei bod hi'n syniad da creu un gan fod hwn yn gosod yr amodau'n glir a gall osgoi unrhyw gamddeall
- Dylai cytundeb ysgrifenedig gynnwys:
- Y swm y disgwylir i ti dalu am yr ystafell a gwasanaethau eraill
- Yn union beth yw'r gwasanaethau hyn
- Faint o rybudd y bydd rhaid ei roi os wyt ti am orffen y denantiaeth
- A oes rhaid talu blaendal ac a fydd hwn yn cael ei ddychwelyd?
- Yr amodau ar gyfer codi pris y rhent a faint o rybudd a roddir i ti
- A fydd gen ti allwedd i dy ystafell?
- A oes hawl gen ti i gael pobl i aros yn dy ystafell?
- Wyt ti'n rhannu ystafell gyda thenantiaid eraill?
- Rhaid cytuno ar y materion hyn ac mae'n hanfodol dy fod yn eu trafod gyda'r landlord ac yn ysgrifennu cytundeb a'i lofnodi
- Bydd y landlord yn talu treth cyngor hefyd, felly os wyt ti'n gymwys, rhaid i ti drefnu talu rhan ti gyda'r landlord