Gwybodaeth » Tai » Dod o Hyd i Lety Rhent » Cyllid ar Gyfer Rhentu
Yn yr Adran Hon
Cyllid ar Gyfer Rhentu
Pan fyddi di'n symud i lety ar rent, mae llawer o faterion ariannol y mae'n rhaid i ti eu hystyried yn gyntaf.
Yn ogystal â thalu rhent wythnosol neu fisol, efallai y bydd rhaid i ti dalu blaendal neu fond, biliau a chostau cartref eraill.
Cyn i ti lofnodi cytundeb tenantiaeth, dylai darganfod:
- Pris y rhent
- Pryd y mae'n rhaid ei dalu - yn wythnosol neu'n fisol?
- Faint yw'r blaendal/bond?
- A gaiff unrhyw filiau eu cynnwys ym mhris y rhent?
- Tua faint fydd rhaid ei dalu ar gyfer biliau?
- Gall rhentu fod yn ddrud felly dylai gwneud yn siŵr dy fod di'n gallu fforddio'r rhent y mae'r landlord yn gofyn amdano, yn ogystal â chost ychwanegol y biliau egni, biliau bwyd a chostau byw cyffredinol. Gweler yr adran Biliau am wybodaeth bellach ar gost biliau a sut i'w gostwng
- Bydd y bond neu'r blaendal fel arfer yn gyfwerth â phris rhent un mis a bydd yn cael ei ddychwelyd i ti pan fydd y denantiaeth wedi dod i ben, dim ond bod yr holl rent wedi'i dalu ac nad oes difrod i'r tŷ wedi'u hachosi gennyt ti. Bydd angen talu hwn ar yr un pryd â llofnodi'r cytundeb tenantiaeth
- Gall fod yn ddefnyddiol cyfrifo cyllideb cyn dechrau chwilio am dŷ neu fflat. Dylai ystyried dy incwm a threuliau i gyfrifo'r hyn y gallet ti ei fforddio. Am ragor o wybodaeth ar gyllidebu, gweler yr adran Cyllidebu
- Unwaith i ti benderfynu ar swm realistig fedri di ei dalu, cadw ato. Os nad fedri di dalu'r rhent gallet ti gael dy droi allan neu gall y landlord fynd â thi i'r llys felly sicrha ei fod o fewn dy gyllideb
- Os na fedri di gadw at daliadau'r rhent, siarada â'r asiantaeth gosod neu'r landlord ac esbonia'r sefyllfa. Efallai gallet ti gytuno ar gynllun talu arall os oes gen ti drafferthion. Paid byth ag anwybyddu'r broblem - ni fydd yn datrys ei hun, dim ond mynd yn waeth
- Os wyt ti eisiau siarad â rhywun am broblemau yn talu rhent neu filiau, gall chwilio am gyngor gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu siarad yn gyfrinachol gyda Meic. Mae yna bob amser rhywun a all roi cymorth i ti beth bynnag fo'r broblem